



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae Siân Thomas yn gyflwynwraig teledu a radio ac yn dwli ar bach o sbarcl.
"Dwi’n ofnadwy o sentimental pan mae’n dod at ddillad. Dwi wedi dod yn agos iawn at daflu rhai ohonyn nhw. Dwi wedi eu rhoi nhw mewn bag er mwyn mynd a nhw i siop elusen, maen nhw’n cyrraedd y drws ffrynt, ac mi fyddai’n meddwl, “na, gadwa’i nhw”!"
Ti oedd ar y sgrin y noson gyntaf i S4C ddarlledu erioed yn ‘de?
Ie, a dyma beth oeddwn i’n wisgo. Suede ydyn nhw. Dydyn nhw ddim wedi cael eu gwisgo tu fas i stiwdio erioed, roedd gormod o ofn arna’i! Pob tro roeddwn i’n cael disgled o de roedd yn rhaid i mi bwyso i ffwrdd fel bod dim diferyn yn mynd arnyn nhw. Ar y pryd redden nhw’n ffasiynol. Os wyt ti’n meddwl am bethau cynnar Diana, gyda’r ffrils a phethau, dyna oedd y ffasiwn ar y pryd.
Sut oeddet ti’n teimlo ar y noson gyntaf?
Hunllefus! Roeddwn i wedi cael ofn. Ond roedd hi’n noson wych, yn anhygoel. Roeddwn i hefyd yn ymwybodol bod hi’n noson hanesyddol. Ac roedd pawb yn dweud wrtha’i, os byddwn ni yn gwneud llanast o bethau, neu yn baglu ar fy ngeiriau y byddwn ni’n mynd lawr mewn hanes am y rhesymau anghywir! Gan mai dim ond un ar hugain oeddwn i ar y pryd dwi ddim yn meddwl mod i yn gwerthfawrogi’n union beth oedd yn digwydd, ond wrth i mi fynd yn hŷn, mae’r noson yna, be ddigwyddodd a beth sydd wedi digwydd ers hynny, yn rywbeth sbeshal dwi’n credu.
Mae gen ti gasgliad arbennig o ddillad.
Rhwng S4C a ‘Heno’, roeddwn i ar y teledu ryw bedair noson neu bedwar diwrnod yr wythnos am ddim yn bell o ugain mlynedd, ac mae hynny yn lot o ddillad! Dwi wedi cael fy nal sawl gwaith, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar, yn mynd i wneud rhywbeth a ffeindio mod i wedi gwisgo’n hollol anymarferol. Felly, dwi’n dechrau gyda’n nhraed, a gweithio’n ffordd i fyny gan wisgo’r gweddill ohona’i gan fatsio beth bynnag sydd angen ar fy nhraed.
Beth oeddet ti’n feddwl o ddillad yr 1980au?
O’n i wrth fy modd! Ti’n edrych yn ôl ac redden nhw mor hyll a dros ben llestri. Ond ar y pryd, roedden nhw’n ffantastig gyda’r ysgwyddau mawr. Roedd pob dim yn ‘Dynasty’ a ‘Dallas’, popeth yn fawr. Roedd y gwallt yn anferthol, y clustdlysau’n anferthol, yr ysgwyddau yn fawr ac roedd yna bethe dros bob man, yn gadwyni ac yn fotymau mawr pres. Roedd e jyst yn ffantastig! Ond wrth edrych yn ôl, dwi ddim yn gallu credu mod i wedi gwisgo’r fath bethau! Ond ar y pryd redden nhw’n anhygoel.
Wel mae hon yn ddoniol, o ble ges di hon?
Ges i hon cyn i S4C fynd ar yr awyr hyd yn oed, yn Eisteddfod Abertawe, ym Mharc Singleton. Fe gafodd cannoedd o’r rhain eu gwneud er mwyn hysbysebu S4C, ac fe wnaethon nhw ofyn i mi fodelu’r un cyntaf. Ond papur ydi hi! Diolch byth doedd hi ddim yn bwrw glaw, neu mi fyddai fy ngyrfa i drosodd cyn iddo ddechrau!
Ti’n licio bach o sbarcl yn dwyt?
Wrth fy modd! Dwi’n licio sequins a beads sy’n sgleinio, plu a phob math o jingilarins – dwi wrth fy modd! Mae pobl yn gwisgo lan i fynd mas eto, yn gwisgo pethau sbarcli a mymryn dros ben llestri, ddim cymaint â’r 80au chwaith! Tipyn bach fwy sidet, ond dwi’n licio dillad glamorous.
Mae hon yn ffrog fendigedig, o le ddaeth hon?
Hon yw’r ffrog wisgais i i’r Oscars. Mi fues i’n lwcus iawn flynyddoedd yn ôl i gael mynd. Roedd hi yr un flwyddyn ac yr enillodd y ffilm Titanic bob math o wobrau. Mae wedi cael ei thorri’n dda ac mae yna fronnau ynddi cyn dechrau sy’n grêt! Ryw chwe wythnos cyn yr Oscars, doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd mod i’n cael mynd, fe wnes i a Gary Owens gyflwyno sioe ffasiwn, ac roedd yn rhaid i ni fodelu rhai o’r dillad. Roedd hon yn un o’r ffrogiau oeddwn i’n eu gwisgo, ac roedd hi’n edrych yn hyfryd. Ar ddiwedd y noson perswadiodd Gary i mi brynu’r ffrog, er nad oeddwn i yn arfer gwisgo pethau mor ffurfiol. Mis yn ddiweddarach ges i wybod mod i’n cael mynd i’r Oscars ac roedd hon gen i yn barod!
A tithau wedi newid i weithio ar y radio, oedd hi’n sioc i’r system peidio gorfod poeni am ymbincio bob bore?
Roedd e’n rhyfedd. Diolch byth nad oeddwn i’n gorfod poeni am sut oeddwn i’n edrych, achos ro’n i yn dechrau gweithio am 5 o’r gloch y bore! Nawr dwi yn y prynhawn dwi’n licio gwisgo i fynd i’r gwaith, ac er bod pobl yn methu dallt gan mai ar y radio ydw i, mae yna westeion yn dod mewn i’r stiwdio. A'r hyn sy’n rhyfedd yw ryw chwarter awr cyn mynd ar yr awyr mi fyddai’n twtio ngwallt ac yn rhoi tipyn o bersawr ymlaen a rhoi ‘lipstick’ cyn mynd i’r stiwdio - felly mae’n bosib ei fod o yn y ngwaed i.
Fel cyflwynwraig ac wyneb cyhoeddus, wyt ti’n teimlo dan bwysau i beidio heneiddio?
Os faswn i’n poeni am heneiddio man a man i fi aros yn y ngwely. Faswn i byth yn gallu gwisgo’r dillad oeddwn i’n wisgo pan o’n i’n ugain oed nawr. Fasa fe jyst ddim yn edrych yn iawn. Felly dwi’n ceisio edrych y gorau fedra’i ar yr amser yma yn fy mywyd i.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Siân Thomas y person cyhoeddus a’r gyflwynwraig a Siân Thomas, y person sydd adref, y person go iawn?
Faswn i’n licio meddwl fod yna ddim gwahaniaeth o gwbl, dwi ddim yn ymwybodol bod gwahaniaeth. Er bod yn rhaid prynu pethau penodol ar gyfer gwaith arbennig, dwi ddim yn mynd i brynu rhywbeth sydd ddim yn fi. Mi faswn i’n licio meddwl mai fi yw fi yw fi!