



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae yna rywbeth parchus iawn yn perthyn i sebwrbia yn does? Cymrwch Siân Hughes Cooke er enghraifft sy’n byw hefo’i gŵr Neil a’i mab William. Mae’n cynllunio dillad isa’ a hynny o adra... wel mae’n rhaid i rywun!
Sut wyt ti’n penderfynu ar dy wisg?
Dwi’n reit fussy pan dwi’n dewis fy nillad isa’. Dwi’n edrych ar y dillad allanol dwi’n wisgo yn gynta’ a wedyn dewis y dillad isa i fynd hefo’r outfit. Dwi’n hoffi petha’ bach intricate, dyna pam dwi’n hoff iawn o ddillad isa’ achos fod yna lawer o fanylion arnyn nhw. Pan dwi’n dylunio dwi’n meddwl am elfennau o ffantasi a hwyl.
Sut mae dy yrfa fel cynllunydd dillad isa' wedi datblygu?
Pan o'n i yn byw ym Mharis ges i’n headhuntio gan Calvin Klein yn gyntaf ac fe es i weithio hefo nhw am flwyddyn yn Efrog Newydd. Ar ôl hynny fe es i weithio i Victoria Secrets, sef cwmni dillad isa’ mwyaf America ac mae ganddyn nhw tua 900 o siopa dros y wlad i gyd.
Mae’r dilledyn yma’n fendigedig.
Mae gen i gynlluniau yma sydd wedi ymddangos yn Vogue a chatalog Victoria Secrets. Fe ymddangosodd hwn yn Vogue yn yr Almaen ac fe gafodd ei gynllunio ar gyfer y Nadolig. Mi nes i weld y defnydd a disgyn mewn cariad ag o, ond mi oedd o bach rhy ‘bling’ jyst ar ben i hun, felly fe rois i ychydig o mesh drosto fo er mwyn gwneud iddo fo edrych ychydig bach yn fwy subtle ac yn fwy soffistigedig.
Sut deimlad oedd gweld dy gynlluniau di yn Vogue?
Mae o'n gwneud i mi deimlo’n reit hapus a deud y gwir. Ryw bythefnos yn ôl mi welais i’r cylchgrawn OK ac roedd Britney Spears yn gwsigo bra oeddwn i wedi ei gynllunio mewn piws o dan grys du. Felly mi ‘nath o neud i mi chwerthin yn gweld hynna ag y cwbl o’n i’n meddwl oedd mai fi sy wedi cynllunio’r bra yna!
O le wy ti’n cael dy ysbrydoliaeth?
Dwi’n edrych ar bob math o betha’ er mwyn cael ysbrydoliaeth. Dwi’n dechra' gyda pallet o thema gwahanol a gweld be sy’n edrych yn neis hefo’i gilydd. Ar y wisg hon mae yna embroidery Versailles ac fe ges i fy nylanwadu gan y ffilm Sleepy Hollow i wneud hwn. Ro’n i wedi gweld yr embroidery yma a meddwl y bydda fo’n gwneud corset neis hefyd.
Pan dwi’n gwylio ffilmiau neu weithia hyd yn oed wrth edrych ar blatiau a chwpanau - mae pob math o betha’ yn rhoi ysbrydoliaeth i mi pan dwi’n creu'r patrymau a’r lliwia, felly dwi bob tro yn edrych allan am bethau gwahanol.
Wyt ti’n meddwl fod merched yn teimlo yn wahanol mewn dillad isa arbennig?
Yn bendant. Mae pob set wedi ei greu i gwsmer gwahanol neu i greu mood gahanol. Dwi’n meddwl ei fod o'r un fath o beth a phan ti’n cael ffrog newydd neu steil gwallt newydd - mae’n rhoi tipyn mwy o hyder i ti ac yn gwneud i ti deimlo’n well. Os fasa chi’n dylunio rhywbeth sy’n ffitio’n dda dwi’n siŵr y basa fo’n gwneud i rywun deimlo’n fwy hyderus.
I bwy wyt ti’n dylunio dy ddillad?
Dwi’n dal i ddylunio i lot o gwmnïau ym Mhrydain ac mae llawer ohonyn nhw ar y stryd fawr. Dwi’n gwneud lot o betha i Marks and Spencers ar hyn o bryd ac yn y gorffennol dwi wedi gwneud petha' i Ann Summers a Knickerbox hefyd. Fel cwmni da ni yn gweithio i Debenhams ac roedden ni yn arfer gneud petha i La Senza, felly mae rhan fwyaf o bobl yn gwisgo dylunia dwi wedi eu creu.
Pwy ydy dy gwsmeriaid di Siân?
Wel wrth gwrs merched, ond ma' dynion hefyd yn prynu'r dillad isa i’w gwragedd a’u cariadon. Dwi’n meddwl fod merched yn tueddu i brynu dillad isa functional, o ddydd i ddydd, a falle fod dynion yn prynu rhywbeth fwy rhywiol.
Beth yw dy flaenoriaeth di wrth gynllunio?
Pan dwi’n cynllunio, yn enwedig i gwmni fel Marks and Spencers mae gwneud y dillad yn rai cyfforddus yn bwysig iawn. Ma’ petha’ da ni yn tueddu i neud iddyn nhw yn gorfod cael eu golchi ar 40 gradd tua deg o weithiau! Ond hefo rhai o’r cynlluniau dwi wedi eu gwneud tydi hynny ddim yn bwysig, mae o fwy i wneud hefo’r ffordd mae o’n edrych. Mae rhai o’r pethau dwi wedi eu cynllunio wedi eu gwneud ar gyfer cael eu gwisgo ond am bum munud beth bynnag... er, efallai na ddylwn ni ddweud hynna!
Ma rhain yn set fach ddel.
Mae hwn i fod i edrych yn eitha innocent ond tydi o ddim! Mae’r bra yn gallu agor yn y tu blaen bob ochr. Ond ma ‘na elfen o hwyl hefo’r plu, y fallen angel oedd enw hwn.
Dollybird ydy enw’r set yma. Roedd gynnon ni thema Hello Dolly ac mae o i fod i edrych yn kitsch hefo lliwia sherbet- dwi’n hoff iawn o’r combination lliwia yma. Mae gan un o’r cwmnïau mawr ym Mhrydain lot o ddiddordeb mewn cael hwn, felly dwi jyst yn gobeithio y gwna nhw brynu fo.
Mae hwn yn edrych yn wahanol ac yn llawer iawn o hwyl!
Ma hwn yn dangos yr elfen hwyl yn y cynlluniau dwi’n ‘neud. Chastity ydy enw hwn. Mi ges i hyd i frodwaith y chain yma a ro’n i eisiau ei wneud o’n binc ag yn hwyl hefo goriad diamante ac fel clo bach. Dw’i wedi neud cuffs bach hefyd i fynd hefo fo hefo goriad a chlo arnyn nhw.
Beth yw steil dy gynllunio di?
Dwi’n trio rhoi lot o elfennau o hwyl yn y cynllunia’ a thipyn bach o tongue in cheek a gwthio’r boundaries ychydig. Ma’ nhw tipyn bach yn kitsch a ma’ rhai eraill yn rhywiol, ond ma nhw i gyd ‘di cael eu cynllunio i farchnad wahanol ac i fath gwahanol o bobl. Dwi’n meddwl mai’r elfen fwyaf amlwg dwi’n ei roi mewn i bob un ydy hwyl.