



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Beth mae dillad yn ei olygu i ti?
Dwi’n meddwl fod dillad yn hanfodol yn y mywyd i. Dwi ddim yn berson mor arwynebol â hynny, ac i fi yr ymennydd yw’r peth pwysicaf am berson. Ond wedi deud hynny os oes gennych chi gyfuniad o ymennydd mawr a hiwmor a hefyd y dillad ar y tu fas, dwi’n meddwl fod hynna yn gyfuniad ffantastig o bwerus a’r peth mwya sexy allwch chi byth ei gael.
Mae pawb yn fy ffonio fi ac yn gofyn cwestiyna am y tywydd a ma pawb moyn gwybod os yw’n bosib gwisgo ryw wisg arbennig. Un o’r petha fwya’ diflas ydy gweld rhywun yn gwisgo gwisg sydd ddim yn siwtio’r achlysur a hefyd sydd ddim yn siwtio’r tywydd. Does dim byd gwaeth na bod mewn heulwen grasboeth ac yn gwisgo rhywbeth gaeafol. Dwi’n meddwl fod hynny jyst yn ddiflas ofnadwy.
Ydy hoffter o ddillad yn rhedeg yn y teulu?
Mae gen i chwaer sydd yn byw ym Mharis a da ni’n ffonio’n gilydd rwy ddwywaith, dair yr wythnos, ac mi fyddan i’n sôn am y glaw yn Llundain a bo fi yn methu gwisgo’r siaced ledr newydd sydd ‘da fi achos y glaw. Bydd hi’n sôn am yr heulwen ym Mharis ac fel ma hi’n gallu gwisgo top bach Jean Paul Gaultier newydd hi. Mae o jyst yn dangos tydi, obsesiwn am y tywydd ac obsesiwn am ddillad!
O le wyt ti’n cael dy steil di?
Dwi ddim yn fashion victim o gwbl. Dwi’n darllen Vogue a dwi’n darllen Harpers. Dwi wastad yn cofio pan oedd fy ffrindia fi i gyd yn darllen Bounty a Jackie ro’n i wastad yn gofyn i mam brynu Vogue i mi. Hyd yn oed pan o'n i tua 8 neu 9 oed dwi’n cofio sbïo ar y llunia yn Vogue a meddwl i bod nhw yn odidog a gwybod am ffasiwn. Dwi wastad wedi gwybod am designers, dwi wastad wedi gwybod pwy di pwy a ma hynny wedi aros gyda fi ar hyd y mywyd. Mi fedrwn ni neud Mastermind ar ffaswin - dyna fydda fy specialist topic i - ffasiwn. I fi mae ffasiwn yn golygu esgidia' hefyd. Dwi’n methu sôn am ddillad heb feddwl am sgidia hefyd. Dwi’n dwli ar sodle uchel. Po fwyaf uchel - y gore yn fy marn i. Mae’r rhan fwya’ o sgidia sydd gen i tua thair modfedd o sawdl, a ma hynna yn uchel iawn. Dwi’n dwli ar fŵts a dwi’n dwli ar sgidie - ma bach o obsesiwn da fi am sgidie!
Wyt ti’n cael y teimlad fod rhaid i ti gael esgidiau os wyt ti’n gweld rhai ti’n eu hoffi?
Mae o fel syrthio mewn cariad mewn ffordd. A bod yn deg dwi ddim yn ysmygu, dwi ddim yn yfed cymaint â hynny, yn sicr dwi heb, a ddim yn bwriadu gwneud cyffuriau, dwi’n yfed bach gormod o goffi a byta bach gormod o siocled ond y peth mawr sy' 'da fi yw addiction i esgidia. Dwi’n cael cymaint o high pan dwi’n gweld y pâr o sgide perffaith mewn ffenestr siop Manolo Blahnik, alla i ddim disgrifio fo. Mi alla i goncro’r bydysawd a dwi’n gorfod, gorfod cael y pâr yna o esgidia. Tydi o ddim ots faint ma’r pÂr yn gostio, a ti’n sôn am gannoedd gyda Manolo Blahnik, ond i fi, mae o werth pob ceiniog.
Mae hon yn ffrog fendigedig.
Dyma un o fy hoff ffrogia’ i yn y byd i gyd, ond mae o yn hunllef i gael o wedi ei lanhau. Eisoes ‘di o ddim fel yr oedd o achos i fod o wedi ei lanhau dair gwaith. Lledr yw’r darnau bach yma, lledr aur. Pan brynais i’r ffrog gan Alice Temperley roedd y lledr yn llyfn i gyd, ond nawr mae o ychydig bach fwy crinkly. A ma hi yn ffrog lyfli ac mor unusual. Ges i hi yn y sêl, nid yn unig hanner pris, ond hanner, hanner pris, achos rhywbeth fel £1,800 oedd ‘i phris llawn hi. Dwi ddim yn meddwl y byddwn ni wedi talu cymaint â hynny. Mae gen i hyd oed ffinie!
Wyt ti’n ymarferol wrth brynu dillad?
Yndw. Dwi’n ffan mawr o betha sydd ddim angen eu smwddio. Dwi’n casáu smwddio. Dwi’n casáu dau beth, un yw golchi petha fel cyllyll a ffyrc, a ‘nai byth neud hynny, y peiriant golchi llestri sydd yn gneud hynny, a’r peth arall ydy smwddio - mae o’n gymaint o wastraff amser! Na’i dalu pobl i neud hynna neu nai brynu dillad hefo lot o lycra neu man made fabrics er mwyn peidio gorfod gneud hynny.
Mae hwn yn dop bendigedig.
Mae ‘na siop yn Llangollen, reit ar y bont, a ma ‘na lwyth o betha diddorol iawn yno. Mae yna brynwr arbennig o dda yna sy’n cael petha eitha anarferol. Mae’r top yma wedi bod dros y byd i gyd. Ti’n gallu wasgu o mewn i belen fach a’i roi o yn y suitcase ac wedyn ei ddadbacio fo a mae o’n berffaith. A ma ‘na bach o ‘bling’ arno fo hefyd!
Mae lliw'r crys yma’n hyfryd.
Mae gan ŵr Laura Ashley, Sir Bernard Ashley gwmni newydd o’r enw Elan Bach. Second yw’r crys yma fel ma’n digwydd ac mi ges i o am rywbeth fel £10 a mae o’n lyfli a ma’r lliwia yn grêt.
Be am dy ddillad gwaith di wedyn?
Dwi’n dueddol i brynu petha fel Armani trouser suit achos ma’r siâp yn lyfli a ma nhw yn gweithio ar sgrin. Wedyn rhoi lot o dopia bach gwahanol liwia o danyn nhw a gwisgo nhw fyny hefo petha fel mwclis a chlustdlysau ac yn y blaen.
Sut fath o berthynas sydd gen ti hefo dy ddillad, sut wyt ti’n teimlo amdanyn nhw?
Mae’r berthynas sydd gen i hefo’n nillad bach rhy incestuous dwi’n meddwl! A tasa yna dân yn y tŷ mi fasa’n rhaid i mi ddeud y byddwn ni yn achub yn sgidia. Mi fyddwn ni’n rhuthro mewn ac achub fy mŵts euraidd, yna byddwn i yn achub fy ffrog Alice Temperley dwi’n meddwl. Felly 'dwn i ddim os ydy hynny yn berthynas holliach ond o leia’ mae’n berthynas fydd yn para!