Cwpwrdd Dillad: Sioned Rowlands
Sioned Rowlands
Sioned Rowlands
Sioned Rowlands
Sioned Rowlands

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

"Dwi wrth fy modd yn gwisgo hen hen ddillad a ‘ma mam di casglu nhw, felly ma hi ‘di pasio lot ohono nhw lawr i fi a dwi wrth fy modd yn gweld fy nghwpwrdd dillad yn llawn o’r hen, hen ddillad ‘ma."

"Sw ni’m yn deud bo fi’n berson sy’n dilyn ffasiwn o gwbl neu’n gorfod cael y steil yna na dim byd, dwi jusd yn licio cymysgu hen ddillad efo pethe newydd, ma nhw’n golygu lot mwy i fi na ryw ddillad fedrith unrhyw un brynu mewn unrhyw siop, ma rhein yn wahanol ag ella bo na elfen ohona fi’n licio bod yn wahanol, dwi’m yn gwbod!"

Sioned Rowlands

Lle nawn ni ddechra, dillad dy hen nain di?

Wel dyma hen gotiau ffyr, dyna un hen nain, a dyna un nain, ac wrth gwrs ma nhw ‘di cadw nhw mewn ffrogia bach del fel bo nhw ddim yn difetha...

Ma gen i het yn perthyn i’n hen nain i fan hyn, a ma’ hon yn lyfli, ma hi fel rwbath sy’n ffasiwn rwan yn dydi, sa chi’n gallu prynu hi rwan.

Sioned Rowlands

A ma genai siol hefyd, siol frethyn, lyfli, a dwi jusd ‘di rhoi botwm bach arni, so pan dwi’n gwisgo hi dwi jusd efo hwna yn y canol, felly ma hwnna’n un neis, a llwyth o rai baggy hefyd...

Sioned Rowlands

Sut wyt ti'n gwisgo'r hen ddillad?

Ma rhein yn lyfli, sgertiau nain ‘di hein, yr hen frethyn. Dwi’n licio nhw so nai wisgo nhw ella yn anffurfiol hyd yn oed, hwn efo siwmper ar ei ben o a boots, jusd yn anffurfiol, oherwydd dwi’n licio’r gwead, mae o’n fendigedig yn dydi? Ma hwn yn sgert brethyn arall odd yn perthyn i nain, dwi wrth fy modd fo’r botyma yn hwn, ma na fotymau reit lawr i’r llawr. Mi oedd ‘na siaced hefyd i fynd efo hi, ond wn i ddim lle ma hwnna ‘di mynd.

Sioned Rowlands

Pam wyt ti'n cael mwynhad o wisgo dillad dy nain a hen nain?

Dwi jusd yn licio’r hen betha ac oherwydd nes i golli nain pan o’n i’n ddwy oed, ond ma’n hen nain i di bod efo ni tan rhyw dair blynedd yn ôl, dwi’n teimlo bo fi yn ‘nabod nain oherwydd dwi efo’i dillad hi, felly dwi’n teimlo bron iawn bod hi efo fi pan dwi’n gwisgo nhw, felly ma hwnna’n rwbath sentimental hefyd.

Sioned Rowlands

Ma’r lliw glas na’n lyfli, o sbia, ar wlan mae o fyd...

Ma hwn hefyd yn lyfli, hen dop nain di hwn efo’r sequins, dydi o’n fendigedig, mae o’n neis yn yr haul. Ia, achos ma na lot ohonyn nhw ar sidan yn does? Mae o’n gynnas hefyd.

Sioned Rowlands

Ma na lot o ddillad chwedegau o gwmpas yn does

Dwi’n lwcus, dwi’m yn gorfod talu amdanyn nhw! Efo’r coler yn troi fel ‘na, mai’n edrych fatha cot Sali Mali dwi’n meddwl! Ma hwn o ochr arall y teulu, ochr dad di hwn, hen siaced i Anti Megan maen siwr o’r chwedegau, ond dwi’n gweld rhein mewn siopau ar y stryd fawr rwan, mae o’n ffantastig, ma nhw gyd yn dod yn ôl i ffasiwn.

Sioned Rowlands

Be di hanes y ffrog fendigedig yn hongian ar y drws yn fana?

Oedd Nain yn gwisgo yn rili smart, ag odd hi’n mynd allan i lefydd smart hefo Taid. Roedd hi’n mynd lawr i Llundain i gal ei dillad wedi gneud, a ma hon yn un o’i ffrogia, mae’n siwr mae ball-gown neu rwbath oedden nhw’n galw hi, ond mai’n fendigedig dydi?

Ma na rwbath neis am y ffaith fod ‘na ‘chydig o farcia arni, ma jusd yn dangos ei bod hi’n hen a ddim jusd yn un newydd, a fysa fo’n neis gallu gweld yn hun ynddi bysa? Be sy’n neis am fy nain, dydi hi ‘rioed di mynd yn hen nachdi, nath hi farw pan odd hi’n 47...

Sioned Rowlands

Nes i sylwi ar y clustogau ma, ma rhein yn hen frethyn neis hefyd yn dydi?

Ond be dwi’n neud efo nhw, dwi jusd yn gneud nhw, ac yn hytrach na rhoi cushion tu mewn, dwi jusd yn llenwi nhw hefo hen ddillad, achos dwi methu cal gwarad ohono nhw... ma hwnna’n ffrog binc odd mam yn arfer wisgo.

Ag odd hwn yn ffrog nath mam wisgo pan odd hi’n disgwl hefyd, neis bo nhw’n dod yn ôl, ma hwn yn perthyn i’n hen nain i, y crys yma, ond ‘sa rywun yn gweld hwn heddiw mewn siopa byse.

Sioned Rowlands

Beth mae gwisgo dilledyn efo hanes yn golygu i ti?

Erbyn hyn, er bo nhw ‘di bod yn rhai nain a’n hen nain, dwi’n teimlo mai fi sy bia nhw a ma’ nhw’n rhan ohona i rwan ddim jusd nain a’n hen nain i.

Weithia neith mam a fi gal rhyw noson sentimental a nawn ni dynnu hen lunia allan, a hen ddillad a siarad amdanyn nhw a hel atgofion. Mae mam yn cofio ei mam hi’n gwisgo nhw a dwi’n gobeithio neith Nanw ddal i gadw nhw er mwyn i’r cenedlaetha eraill gal y dillad ma, achos ma nhw’n golygu gymaint.