



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Sut fydda ti’n disgrifio dy steil di?
Sai’n gwybod be’ yw fy steil i rili, ond ma’ bawb arall yn gwybod. Funky falle bydde’ rhai yn ei alw fe, ond dyw pob un ddim yn ei hoffi dwi’m yn meddwl.
Dydy pobl ddim yn disgwyl i bennaeth ysgol gynradd wisgo catsuit! Wyt ti’n licio gallu torri’r rheolau yna?
Mae sawl rhiant wedi dod i’r ysgol a gofyn i mi os alle’n nhw siarad gyda’r pennaeth. Ma’ bobl yn dueddol i ddweud wrtha’i nad ydyn nhw’n disgwyl i bennaeth edrych fel fi, ond mi fyddai’n ateb gyda’r cwestiwn ‘sut ydw’i fod i edrych?’ Mae sawl mam yn dweud wrtha’i fod eu plant yn mynd adre ar ôl ysgol ac yn dweud be odd Mrs Davies yn gwisgo'r diwrnod hwnnw neu yn gwisgo lan gartre’ ac yn efelychu be 'dwi’n wisgo. Fe wnaeth un rhiant fy ngalw i’n ‘style icon’ ei phlentyn hi!
Mae gen ti lond gwlad o ddillad crand iawn yma, i le fyddi di’n gwisgo rhain?
Dwi mas pob penwythnos yn rhywle! Dwi’n tueddu i fynd i ddawnsfeydd gyda fy ngŵr a gwisgo rhywbeth fwy elegant. Ma’ gen i un neu ddwy o ffrogiau y byddwn i’n medru eu gwisgo ar Strictly Come Dancing dwi’n siŵr! Dwi’n dwli ar y top yma. Mi fyddai’n ei wisgo gyda throwsus gwyn achos os fyddwn i’n ei wisgo fe gyda du fydda ti ddim yn gweld y rhubanau. Fe wisges i e i’r theatr yn Llundain llynedd ac mae’n rhaid i mi ddweud y daeth 'na lawer o bobl lan ata’i a gofyn o ble ges i’r outfit, ac rodd yn rhaid i mi ddweud mai o siop Canasta yn Llansawel y ces i nhw.
Be ydy hanes y ffrog hyfryd yma?
O’n i mewn ball yn Abertawe unwaith ac roedd Joan Collins yna’n cyhoeddi enwau’r bobl oedd wedi ennill y raffl, ac wrth gwrs pwy enillodd ond fi! Es i lan ati a wedodd hi’n syth wrtha’i, ‘Oh! Darling I noticed your dress earlier - I love it!’ Fe wisgais i’r ffrog yma hefyd ar noson allan pan o’n i’n Puerto Banus yn Marbella gyda ngŵr. Roedd e wedi diflannu ‘da rhyw Albanwyr i yfed yn rhywle, felly ro’n i yn Puerto Banus a 'nai gyd odd ‘da fi odd potel o Bollinger ar bob ochr i mi a dim clincen i fynd nôl i’r gwesty. Ro’n i’n cerdded ar hyd y ffordd a phwy odd yna ond Peter Stringfellow, a wedodd e ‘you’ve got to join us’!
Ma’r ffrog yma’n edrych yn un drud iawn.
Fe es i draw i Asda Llanelli ryw ddiwrnod ac wrth gerdded draw nes i gofio mod i wedi darllen erthygl oedd yn cymharu dillad designer a rhai lot rhatach. Felly fe brynais i’r ffrog yma yn Asda am £20. Fe wisges i hi i gyfarfod penaethiaid a daeth sawl un ata'i a dweud wrtha’i eu bod nhw’n dwli arni. Pan ddwedais i mai £20 o Asda oedd hi fe wedodd un ohonyn nhw ‘Yes, but if I bought a £20 dress from Asda, it would look like a £20 dress from Asda!’
Sut fydda ti’n licio dy feibion a Paul ddisgrifio dy steil di?
Ma’ Geraint yr hynaf yn dwli ar y ffordd dwi’n gwisgo. Ma’n fy ngalw fi’n ‘funky mam’! Dwi’n cofio cerdded yn Abertawe un tro hefo’r ieuenga’, Josh a wedodd e, ‘ti’n gwybod be’ mam? Dwi’n teimlo’n bwysig iawn, mae o fel cerdded lawr yr hewl gyda rhywun enwog - ti’n edrych fel star!’ Y peth ydy, dwi’n hapus hefo’n nillad i, ond sa' i’n credu fod pobl eraill. Does neb yn dweud wrtha’i mod i’n edrych yn hyfryd, be ma’ pobl yn dueddol i ddweud yw, ‘ti’n gallu cael get away ‘da gwisgo hwnna’ neu ‘bydden i byth yn gallu gwisgo hwnna!’ Felly, mewn ffordd dydyn nhw ddim ishe gwisgo be’ dwi’n wisgo!
Sut fath o bleser mae dillad yn ei roi i ti?
Un o’r pethau sy’n neud fi deimlo’n hapus yw sŵn y papur tissue yna pryd ti’n cael rhywbeth newydd! Ma’n rhaid i fi ffeindio rhywle i wisgo’r dillad newydd wedyn, mi faswn i’n ei wisgo fe mas o’r siop sen i’n cael. Dwi’n teimlo fel bod siopa ychydig fel serendipity, pan dwi’n dod ar draws pethe’ dwi’n ei brynu fe, a dwi’n gwybod yn gwmws be’ fi’n hoffi.
Sut fydda ti’n teimlo tasa rhywun yn dwyn y dillad ‘ma' i gyd?
Es i ar fy ngwyliau ddwy flynedd yn ôl i Sicilly i westy moethus. Fe dreuliais i oriau’n paratoi popeth, ‘sgidie a chlustlysau i fatsio, popeth. Fe gyrhaeddes i Sicilly, ond 'nath y ces ddim cyrraedd o gwbl! O’n i wedi dodi popeth o’n i’n hoffi i mewn yn y ces a ro’n i’n meddwl y bydden i byth yn gallu mynd nôl a phrynu’r un pethe’ eto. Fe ffoniais i’n ffrindiau i gyd ar y ffôn symudol ac fel wedo’n nhw, ‘bydde hynna’n digwydd i ti o bawb, yr holl ddillad hyfryd ‘na!’ Ma’n nillad i’n bwysig iawn i mi, ma’ nhw’n dweud rhywbeth am fy mhersonoliaeth i.