Cwpwrdd Dillad: Teleri Gray
CWPWRDD DILLAD: Glyn Lewis | Teleri Gray | Jenny Ogwen

teleri gray
teleri gray
teleri gray
teleri gray

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Teleri: Rwy'n hoffi lliwiau llachar fel porffor a pinc tywyll a du a gwyn, wel yr holl liwiau sy' ddim yn ddiflas.


Nia: Pa fath o ddillad sy' yn eich cwpwrdd chi felly? Allwch chi eu disgrifio i mi?

Teleri: Wel, genai ddillad cyffredin neu ddillad bob dydd a dillad dwi'n hoffi eu gwisgo sy' ddipyn bach OTT fel ma' rhai yn hoffi'i ddweud ond dwi'n licio eu gwisgo. Sdim ots gyda fi beth ma' pobl eraill yn ei feddwl, dwi'm yn licio bod yr un fath a phobl eraill.

Nia: Dwi'n gweld bod eich gwallt chi efo rhyw hint o liw porffor?

Teleri: Pan o'n i'n fach odd lot o bobl hyn yn rhoi 'blue rinse' yn eu gwalltiau a phobl yn eu galw'n y 'blue rinse brigade' felly nes i feddwl dwi'm eisiau bod yn wyn! Odd fy ngwallt yn arfer bod yn ddu ac o'n i'n meddwl os ydw i'n ei liwio'n ddu yn fy oedran i y byddwn yn edrych fel rhyw hen wrach, felly o'n i'n meddwl well i mi ei wneud yn borffor ac mae yn mynd gyda fy nillad i.


Nia: Rai blynyddoedd yn ôl, yn dilyn salwch, fe aeth Teleri drwy gyfnod tywyll o iselder. Ers hynny, ma' hi wedi bod yn ymwybodol o sut mae ei dillad yn adlewyrchu ei hysbryd...

Teleri: Cyn i mi fynd yn sal, o'n i'n gwisgo y math o ddillad rwy'n eu gwisgo nawr, ond pan es i drwy'r cyfnod isel, odd dim diddordeb gen i a ma fel tasen i wedi dechrau mynd ar ryw siwrne newydd nawr ac ma'r siwrne yn mynd a fi'n bellach nawr o ran y ffordd dwi'n gwisgo nag oedd o'r blaen.


teleri gray

Teleri: Ma' gwaed sipsiwn yn nheulu Teleri, ac mae'n ymddangos mai traddodiadol Gymreig oedd gwisg y sipsiwn yng Nghymru, nid fel yr edrychiad yr ydym ni gyd yn ei gysylltu a 'stereotype' y sipsi Romani.

teleri gray

Nia: Ma' na lot o borffor yn eich cwpwrdd does?

Teleri: Oes, dwi'n gwisgo hon pan dwi'n mynd i lefydd ac adrodd storiau am sipsiwn.

teleri gray

Nia: Beth am yr un grand yma, dach chi ddim yn mynd i ymdoddi i'r cefndir yn hon!

Teleri: Ma hon yn ffrog les gyda top drosti ac yna'r siaced a bag bach hyfryd i gyd-fynd.

teleri gray

Nia: Oes yna hanes tu ôl i'r ffrog werdd, bert, ysgafn?

Teleri: Ffrog y tylwyth teg ydi hi a dwi'n credu ynddyn nhw'n bendant.

Nia: Ydyn nhw'n byw yng ngwaelod yr ardd felly?!

Teleri: Dwi'm 'di gweld un ond dwi'n siwr eu bod yna'n rhywle. Brynes i hon ar gyfer parti penblwydd 60. Mae'n hyfryd i'w gwisgo.

Teleri: Dach chi'n gallu fy ngweld i'n cerdded lawr y stryd, dwi'm yn gwisgo'r dillad dwi'n eu gwisgo er mwyn tynnu sylw, dwi jyst yn hoffi be dwi'n wisgo.

    CWPWRDD DILLAD

  • Cyfres yn dychwelyd nos Fercher 3 Medi 20:25