



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Tim Rhys Evans yn arweinydd llwyddiannus côr Only Men Aloud!
Wyt ti wastad wedi hoffi dillad o gyfnod y 30au?
Pan oeddwn i'n tyfu lan dwi'n cofio fy mam yn dweud "Timothy where did you come from? You seem to come from a different era!" Dwi'n hoffi'r cyfnod o'r 30au, yr elegance, ond hefyd dwi'n hoffi arddull cyfoes. Dwi'n meddwl bod pob un syn hoffi sefyll ar y llwyfan yn dipyn bach o show off. Dwi'n dwli ar y ffordd yn y gorffennol yr oedd y dynion yn gofalu am y ffodd yr oedden nhw'n edrych, cyfnod Gene Kelly, Fred Astaire. Fel fy nhad cu, roedden nhw wastad yn gwisgo siwt a thei bob dydd. Dim ond os fydda hi'n mynd yn fwy na 90° yr oedd fy nhad cu yn colli'r tei.
Ar Last Choir Standing, pwy oedd yn gyfrifol am ddewis dillad y côr?
Gyda Last Choir Standing mi oedden ni'n gweithio gyda stylist ar y sioe a benderfynodd roi lliw gwahanol i bob côr, a'n lliw ni oedd porffor sy'n liw regal a Roman.
Mae dy gwpwrdd dillad di'n lliwgar ofnadwy. Dweud wrtha'i ychydig o hanes y siwt borffor yma.
Ar ôl ennill Last Choir Standing mi rois i treat bach i mi fy hun. Mi es i Lundain i Savile Row am y tro cyntaf yn fy mywyd ac mi brynais i'r siwt yma. Ma'n hyfryd - ma' hyd yn oed y hanger pren yn hyfryd! Dwi'n teimlo'n wych yn gwisgo siwt fel hyn - sbeshial iawn.
Ydy dy steil di wedi newid dros y blynyddoedd?
Dwi wastad wedi edrych dipyn bach yn wahanol. Yn yr ysgol mae gen i atgofion o edrych yn ofnadwy. Ma' gen i luniau ohona i ar y ffordd i Sbaen gyda'r ysgol a ma'n ffrindiau i yn gwisgo shorts a chrysau-t a mi o'n i'n gwisgo trowsus gwyn linen, blazer glas tywyll, gwasgod, crys, cravat a het panama - ro'n i'n 16! Ro'n i'n edrych yn uffernol! Ma' fy mam yn dweud, pan o'n i'n blentyn bach, bach, tua dyflwydd oed, ro'n i'n gwrthod gadael y tŷ heb fod fy mhants i yn mynd hefo fy sanau i - yr un lliw! Felly os oeddwn i'n gwisgo sanau glas roedd yn rhaid i mhants i fod yn las hefyd. Dwi'n dal i wneud hynna heddiw!
O le ges di'r crys streips gwyrdd a glas yma?
Dyma un o'r pethau gora' sydd gen i, dwi'n dwli ar y cynllunydd Vivienne Westwood. Mi brynais i hwn yn y sale yn Llundain, ac mi odd e'n fargen ffantastig. Dwi'n dwli ar y toriad, y ffordd ma' Vivienne Westwood yn exaggerato popeth, y coler, y cỳffs, mae tipyn bach o theatr yn perthyn i'r cynllun. Ma' yna lot o fanylion hefyd, y botymau ac ati. 'Da chi'n teimlo ychydig bach yn arbennig yn gwisgo rhywbeth fel 'ma.
Beth yw dy farn di am y dewis o ddillad sydd i ddynion y dyddiau hyn?
Does dim llawer o ddewis dillad i ddynion felly mae accessories yn bwysig iawn i mi - fel hancesi a cufflinks.
Ma'r siwt yma yn un smart iawn, o le ges di hon?
Dyma un o'r siwtiau sydd agosâ at fy nghalon i. Fe wisges i hwn ar ddiwrnod fy mhriodas llynedd. Fe gollais i un sioe Last Choir Standing achos mi o'n i'n cal fy mhartneriaeth sifil. Mi wisgais i wasgod arbennig hefo'r siwt - gwasgod cowbois! Dwi'n dwli ar y patrwm yma gan Cath Kidston ac i ddweud y gwir cover quilt oedd y defnydd yma cyn i ffrind i mi ei wneud o yn wasgod i mi. Ma' yna fotyma' mother of pearls arni, felly ma' hon yn arbennig iawn ac yn dod ag atgofion o ddiwrnod gora' fy mywyd i yn ôl i mi.
Be sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol hefo'r côr, ydych chi yn mynd i fod yn newid eich delwedd?
Wel, fel Madonna, dwi'n meddwl ei fod yn bwysig i feddwl am y dyfodol bob amser. Trio pethe newydd, trio edrychiadau newydd. Felly mi ydan ni yn trafod nawr beth sydd nesa' i ddillad Only Men Aloud! a be' sydd nesa' i Tim Rhys Evans!
- CWPWRDD DILLAD