



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae’r Parchedig Towyn Jones yn mwynhau dillad, drama, darllen, operâu, hud a lledrith a stori ysbryd neu ddwy, a tydi o ddim ots beth mae’n ei wneud, mae’n gwisgo ar gyfer yr achlysur.
O be dwi ‘di glywed, ‘da chi wastad yn edrych yn smart a wastad yn gwisgo eich tei-bô? Rwan o le mae hynna wedi dŵad?
Chi’n gwybod be ddywedodd Oscar Wilde? “You’ve either got to be a work of art or wear a work of art.”
Ma’ merched yn gwisgo pob math o bethe ac mae dynion yn dueddol o fod yn llawer, llawer fwy ceidwadol a ddim yn ddigon anturus. Ma’ tei-bô yn rhoi tipyn bach mwy o gyfle i chi. Dwi’n meddwl ddylai dyn gymryd 'chydig o, nid balchder, ‘falla fod hynny yn i roi e yn rhy gryf, ond mae’n rhaid i chi barchu’ch hunain yn ddigonol i fod mor drwsiadus ag sy’n bosib. Dwi’n credu i mi glywed y Parchedig D R Thomas, Aberystwyth yn dweud ar y radio ryw dro am ryw bregethwr na fyddai’n mynd i’r pulpud os na fydda fo wedi cribo’i wallt. Dweud gyda thipyn o feirniadaeth oedd e, ond fe alle fo fod yn siarad amdana i, achos fydda ni ddim yn breuddwydio mynd i’r pulpud heb i mi wneud fy hun mor drwsiadus a fydde’n bosib - o barch i’r gynulleidfa ac i fi’n hunan.
Beth yw eich hoff wisg?
Dwi yn lico siwtiau, a phryd bynnag mae’n bosib gyda gwasgod hefyd. Hwyrach mai dyna’r dilledyn mwya’ dymunol i wisgo achos ych chi’n teimlo ei fod e’n mowldio o gwmpas eich siâp chi, mae’n anodd wrth gwrs rheoli’r siâp dyna’r broblem!
Mae hon yn siwt fendigedig iawn.
Mae hon yn siwt tweed, trwm, hyfryd. Jyst y peth a dweud y gwir! Mae ‘na drowsus cyffredin a byr yn mynd gyda hon. Mi wnes i bwynt o brynu’r ddau gyda’i gilydd, a dwi wedi gwisgo’r un byr hefyd. ‘Trowser dwyn fala’ fel fydda nhw’n i ddeud flynyddoedd mawr yn ôl! Er, dydyn nhw ddim mor baggy a hynny, ond ma' nhw yn edrych yn eitha’ urddasol dwi’n meddwl.
Mae gennych chi hancesi bob lliw ar gyfer eich siwtiau i gyd...
Y broblem yw, does dim pocedi ar y siacedi, a dwi’n licio’r syniad o hances sy’n mynd gyda gweddill y wisg, felly mae’n rhaid i chi wneud ychydig bach o dwyll! Dwi’n mynd i rannu cyfrinach nawr, er ma' siŵr y byddaf yn edifar gwneud! Y fordd o’i gwneud hi ydy drwy roi pinnau ar du mewn y siaced i ddal yr hances, wrth gwrs os daw awel o wynt a chwythu’r gôt ar agor, wel ‘games up’ fel ma' nhw’n dweud!
Fyddwch chi’n gwisgo coler wen weithia?
Byth, byth, byth! Ma’ blynyddoedd mawr ers i mi wisgo coler gron - a rheswm annheilwng iawn oedd gen i dros wneud hynny. O’n i wedi bod yn gweld ryw ffrind i mi yn y gogledd a sylweddoles mai un golau oedd yn gweithio ar y car, a ro’n i’n gorfod dod yn ôl yn hwyr iawn drwy Aberystwyth. Mi fenthyces i goler gron achos o’n i yn meddwl fyddwn ni’n cael mwy o drugaredd gan blismon tasa fe’n gweld fod coler gen i! Ond nes i ddim gweld plismon, wedyn fedra i ddim dweud wrtha chi os fydda’r peth yn gweithio!
Dwi’n cofio cael fy stopio unwaith gan yr heddlu ryw noson, a hynny am yr unig reswm, fel 'naethon nhw gyffesu, gan nad oedda nhw’n fy nabod i, eu bod nhw wedi mhasio i a gweld y tei-bô - ac mi feddylion nhw ar unwaith, “hei ma hwn wedi bod mewn rhyw ginio, da ni’n mynd i gael hwn nawr!” Wrth gwrs doeddwn i ddim, wedi bod yn darlithio yn rhywle o’n i, a thei fel’na o'n i’n i wisgo!
Oes yna rywbeth theatrig mewn dillad i chi?
Siŵr o fod achos mae gwisg yn creu argraff. Dwi ddim yn siŵr a oedd e rywbeth i wneud â’r ffaith mod i yn blentyn yn y blynyddoedd ar ôl y rhyfel, a bod yna dipyn o euphoria fod y gofid mawr drosodd. Roedd mam-gu yn hoff iawn o garnifals, ac fe ges i ngwisgo fyny lawer tro mewn carnifal - roedd pobl wrth eu bodd yn gneud y math yna o beth bryd hynny.
Does yna ddim llawer o bobl sydd yn gwisgo clogyn fel hyn!
Dwi wrth fy modd yn gwisgo clogyn. Ond gwaetha’r modd, dyw hi ddim yn gonfensiwn i weinidogion anghydffurfiol wisgo clogyn. Dwi yn ei wisgo fo os fydd hi’n ddifrifol o oer yn y gaeaf neu ar ryw achlysur arbennig. Ma’r clogyn yn drwm ac yn drwchus ac yn lapio o’ch cwmpas chi. Yr unig berygl ydi, a dwi wedi cal fy hunan mewn ambell i gyngerdd neu rywbeth felly mewn lle oer neu yn yr awyr agored, ac wedi syrthio i gysgu yn y clogyn! Roedd Lloyd George yn arfer gwisgo clogyn ac mae rhyw urddas yn perthyn iddo. Dwi wrth fy modd yn cael y cyfle i’w wisgo fe.
Mae’r tei-bô yma’n un anghyffredin!
Dwi’n perthyn i’r ‘Ghost Club’ yn Llundain ac mae’n hen, hen glwb. Roedd Dickens a phobl fel’na, pobl enwog oes Fictorianaidd, yn gyfrifol am ei sefydlu. Tei arferol sydd gan y mwyafrif o’r aelodau, ond gan nad ydw i byth yn gwisgo tei arferol fe ges i wneud hon a’r tei arferol ac maen ‘na ysbrydion bach arno. Mae hon wedi ei chlymu yn barod - rhywbeth na dwi byth yn ei wneud. Mae’n dipyn o grefft ac yn ddigon anodd i wneud. Dwi wedi bod yn trio dangos i ambell un y grefft o glymu tei-bô, ond mae’n anodd dros ben. Erbyn hyn wrth gwrs, drwy’r ymarfer dros y blynyddoedd, mae’n dod yn weddol hawdd i mi.
Nid pawb sydd yn berchen ar ddwy smoking jacket!
Mae rhywbeth yn eitha’ urddasol am smoking jacket. Mae hon yn hen. Ges i hi yn rhodd, yn newydd ar y pryd, yn y coleg a dwi wedi defnyddio hi dipyn. Mae’n rhaid i chi wisgo tei du - ffurfiol hollol - hefo hi, ac mae’n edrych yn dda gyda chrys gwyn. Yr unig bryd dwi’n gwisgo tei cyffredin yw gyda gwisg briodas côt a chynffon, achos mae’n ran o’r wisg fel petai. Dwi’n licio’r hen syniad o wisgo fyny i ginio - mae rhywbeth ynglŷn â'r peth - da chi’n teimlo ei fod o’n achlysur arbennig.
- CWPWRDD DILLAD