



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae Treflyn Jones yn berchen ar nifer o catsuits a’r ffigwr i fynd hefo nhw.
"Dwi’n meddwl mai fi oedd yr unig un yng Nghymru oedd yn gwisgo dillad mor llachar. Superstar ydy’r gair Saesneg, ac mi oeddwn i’n byw'r bywyd yna."
Sut y cafoch chi'r enw ‘Treflyn Trowsus Tynn’?
Dyna oedd y ffasiwn yr adeg honno. Tynn yn y top a llac ofnadwy ar y gwaelod. O’n i’n gwisgo jîns tynn ar y dechrau ac wrth ganu gigs dyma rhai pobl yn y ngalw fi’n ‘Treflyn Trowsus Tynn’. Doedd yna neb arall yn gwisgo rhai mor dynn a fi!
Wnaethoch chi benderfyniad pwrpasol mai dyna fydda’ eich steil chi?
Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd fod merched yn edrych ar ddynion yn y ffordd yna, o’n i’n meddwl mai mond y ffordd arall oedd o! Pan o’n i ar y llwyfan yn perfformio doeddwn i ddim yn deallt fod hanner meddwl y merched ar yr hogyn a’r hanner arall ar y gerddoriaeth. Doeddwn i ddim yn ganwr pop ac felly heb arfer gyda ffasiwn beth. Doedd y ddelwedd ddim mor bwysig i mi a’r alaw a’r gitâr wrth gwrs. Ges i gynnig mynd i Fanceinion a’i gwneud hi yn y ‘big time’, ond hogyn bach o’r wlad o’n i a doeddwn i ddim isho mynd i’r ddinas fawr. Felly mi roish i gorau iddi am gyfnod nes ddaeth y sîn Gymraeg, ro’n i wedyn yn mynd i gyngherddau a nosweithiau llawen.
Oeddet ti’n hoffi ffasiwn lloerig y 1970au?
Oeddwn. Roeddwn i’n mynd i Fangor i siop o’r enw Cream Zone oedd yn gwerthu lot o ddillad anhygoel.
Pam eich bod wedi newid eich delwedd?
Roeddwn i yn perfformio mewn ‘cabaret’ yng Nghaersws, a nes i groesi’r llawr at fwrdd hefo tri gŵr yn yfed champagne. Roedd gan un ohonyn nhw wallt cyrliog, a medda fo, “Gordon Hills, Tom Jones’s manager”. Wedi ngwylio i a gwrando arna’ i’n perfformio, dyma fo’n awgrymu y dylwn i gael delwedd am mod i’n rhy blaen ac yn edrych yn rhy gyffredin. Wedyn mi awgrymodd i mi wisgo catsuit.
Sut oedd hogyn o Borthmadog yn dod o hyd i wisgoedd o’r fath?
Roeddwn i’n mynd o Fangor i Euston ar y trên fel ‘away day’. Wedi cyrraedd y ddinas fawr a mynd i Soho mewn tacsi, mi ddoish i ar draws siop o’r enw Colin Wilde. Es i mewn ac roedd ‘na ddyn hefo gwallt hir fel Buffalo Bill, a barf hir ganddo. Roedd lluniau o Cliff Richards a Shirley Bassey, a phawb oedd yn enwog ar y pryd ar y waliau ym mhob man.
Ar y pryd ro’n i’n mynd i lefydd fel Aberffraw i ganu ac roedd y lle’n orlawn. Roedd gair wedi mynd ar led fod dyn o Borthmadog yn gwisgo dillad rhyfadd fel catsuits, ac fe ddaeth pawb i weld os oedd y stori’n wir!
Hon oedd y siwt gyntaf i chi ei brynu?
Roedd y trowsus yma’n fflêrs mawr, mawr, a doeddwn i byth yn meddwl y bydda’ fflêrs yn dod yn ôl i ffasiwn. Un peth dwi yn ddifaru wneud ydy tapio’r trowsus i lawr a chael gwared â’r fflêr ar gyfer yr 1980au, achos doedd fflêrs ddim yn ffasiynol yn yr 80au. Ond hon oedd y wisg gyntaf i mi brynu gan Colin Wilde yn Llundain.
Mae’r siwt ddu ac aur yma’n ffantastig.
Nes i orfod mynd lawr i Lundain i weld hon gan mod i’n methu deall y disgrifiad dros y ffôn. Roedd o’n mynnu dweud y gair brocade a doedd gen i ddim syniad beth oedd ffasiwn beth!
Mae yna goler fawr iawn ar hon, beth ydy hanes y siwt wen yma?
Ges i hon yn 1977 pan fu farw Elvis - er cof am Elvis. Roedd y trowsus yma yn llydan hefyd gyda aur lawr y tu blaen i gyd a’n enw fi ar y cefn - TJ - Treflyn Jones. Dwi’n hoff iawn o wyn, a hyd heddiw dwi’n dal i wisgo lot o wyn.
Mae’r siwt yma’n un llachar iawn ac yn gwneud i chi sefyll allan!
Dyna oedd y syniad. Ro’n i eisiau un siwt oedd yn llachar ac fe feddyliais i, pam ddim mynd am binc!