Cwpwrdd Dillad: Twm Morys
CWPWRDD DILLAD: Twm Morys | Juli Beynon |Eiona Hammond
Twm Morys
Twm Morys
Twm Morys
Twm Morys

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Yn fardd, cerddor a hetiwr, daw Twm Morys o Lanystumdwy ac mae ffasiwn yn ei ddrysu’n lân. “Does gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn dillad, dim ond fel petha’ i gadw’n gynnes neu i fynd allan ynddyn nhw. Ond, dros y blynyddoedd dwi wedi cadw rhai dillad sydd yn golygu rhywbeth, sydd yn dŵad o rywle neilltuol, neu rywbeth dwi wedi ei wisgo ar achlysur arbennig. Dwi’n hoff iawn o wisgo het, ond fel arall fydda’i ddim yn meddwl yn bora be dwi’n mynd i roi amdana’i.”

Twm Morys

O le ddaeth yr het yma?

Hon ydy’n hoff het i. Ma’ hon yn gwbwl ymarferol, ma’ hi’n gynnes ac mae hi’n fy ffitio i. Mae gen i rai duon tebyg a phob tro fyddai’n eu gwisgo nhw mi fydd rhywun yn gofyn os mai Iddew ydw i, ac mi fydda inna’n egluro, na, mai dim ond het ddu sydd gen i ar fy mhen. Ma’ hon yn dŵad o Ecwador, yn y rhan ucha’ un yn Ne America. Mi fuodd hi ar fy mhen i yn hir yng Nghymru, ac mi nes i briodi ynddi hefyd. Mi fuodd yn rhaid i mi ei thynnu yn y Capel wrth gwrs, ond fel arall roedd hi ar fy mhen i.

Twm Morys

Wyt ti’n defnyddio dillad i greu ryw fath o argraff?

Mae’n wir, er nad oes gen i ddiddordeb fel y cyfryw mewn dillad, dydy hynny ddim yn golygu mod i’n cerdded o gwmpas yn noeth lymun borcyn. Ma’ amball un yn rhoi dillad amdano er mwyn dangos pwy ydi o, fel bathodyn o ryw fath, ambell un arall yn rhoi dillad amdanyn’ er mwyn cuddiad pwy ydi o, er mwyn bod yn rhywun arall nad ydi o’n debyg iddo fo. Oherwydd mae dillad yn ddelwedd gryf iawn i ddweud gwahanol bethau. Ma’ ambell i gân gen i yn sôn am ddilledyn neilltuol a ma' rheiny gin i. Dwi’n cofio bod rhyw grys amdanai a mod i wedi cyfeirio at y crys hwnnw yn y gân, a ma' hynny’n reit ddifyr dwi’n meddwl.

Twm Morys

Ym mha ffordd mae dillad yn bwysig i ti?

Tydi dillad fel y cyfryw ddim yn bwysig i mi, ond fel creiriau i gofio am bethau sydd wedi bod. Mi fyddai’n rhoi ambell un amdana’i at ddibenion gwahanol. Mae hon yn dod o Dibet, ond nid yn Nhibet gesh i hi chwaith ond yn Nepal. Roedden nhw’n gwerthu dillad a hetiau yna, ac mi gesh i ryw ddwy neu dair o hetiau blewog iawn, iawn o’r un ardal a hon! Mi fyddai’n licio hon oherwydd y du a’r gwyn, a ma’ hi’n atgoffa rhywun o’r geiriau; “mai da a bai yw bywyd, du a gwyn ydyw i gyd”. Mi fyddai’n rhoi hon weithia’ i gyfansoddi os fydd hi’n oer yn y gaea’, a dwi’n ffendio mod i’n cael hwyl ar y cyfansoddi os fydd hon amdana’i am ryw reswm.

Twm Morys

O le ddaeth y siaced hon?

Mae hon hefyd o wlad dramor, o India mae hon wedi dŵad. Jaced Nero oeddan nhw’n galw hon, ac mi oedd hi’n ffasiynol iawn adeg y Beatles. Dwi’n hoff iawn o goler gron hyd heddiw. Mae yna label reit ddifyr ar hon hefyd, ‘Jalal & Sons, NIZAMUODIN, New Delhi.

Twm Morys

Beth ydy hanes yr un streips yma?

Mae’n rhyfadd be ma rhywun yn gadw yn y wardrob. Rhyw ddiwrnod dyma ‘na newyddiadurwr yn dod i’n holi fi a ffotograffydd i’w ganlyn o, ac mi fuodd hwnnw yn fy holi i am oriau a’r llall yn tynnu lluniau. Pan ddaeth yr erthygl allan yn y papur newydd, roedd o’n gwbwl wahanol i be o’n i wedi ddeud, mi nath hynny ‘ngwylltio fi ac mi oedd y llunia hefyd yn betha’ hyll iawn. Mi gymerish i yn erbyn hon ac ar y rhaglen yma dwi wedi ei gwisgo hi am y tro cynta’ ers hynny.

Twm Morys

Be’ wysges di pan ennilles di’r gadair?

Mi benderfynish i y baswn ni’n rhoi crys-t Cymuned amdana’i oherwydd ro’ ni’n gwybod y byddai’r camerâu i gyd arna’i ac mi fasa’r gair yn mynd ar led. Dwi ddim yn gwybod os ddaru hynny weithio chwaith, achos ddaru neb gymryd sylw o gwbwl, y peth fwya’ ffasiynol am y ngwisg i oedd y ffan oeddwn i’n ei gario.

Twm Morys

Lle ges di’r siaced goch yma?

Pan oedd gen i fwstash erstalwm roedd gen i yrfa ddisglair iawn ar y teledu, ac mi brynwyd y siaced yma i mi, i gyflwyno rhaglen oedd yn rhedeg ar y pryd. Roeddwn i’n hoff iawn ohoni adeg hynny, ac eto mi nath ‘na rywbeth y ngwylltio fi tra ar y teledu, a dyma fi’n cymryd yn erbyn y byd yna’n gyfan gwbl a dechra gwneud caneuon, rantio yn erbyn y cyfrynga’ a ballu. Un o’r llinellau oedd, “Mi gawn nhw gadw’r siaced ledr goch a hynna i gyd”.

Twm Morys

Rwyt ti wedi teithio tipyn ar y byd, o dramor ddaeth y siaced yma?

Mae’n siŵr ei bod hi. Mae’n edrych yn debyg i rywbeth fasa cerddor mewn band militaraidd yn wisgo yn India ers talwm. Ond ym Mangor ges i hon i ganu ar y llwyfan flynyddoedd yn ôl, ond dwi wrth fy modd hefo hi. Mae’n theatrig iawn a lliwiau trawiadol arni. Mi oedd ‘na siop ym Mangor ar y pryd, ryw storws anferth oedd yn gwerthu bob math o bethau ail law hefo adran ddillad reit helaeth, llawn petha anarferol iawn ac mi fyddwn ni’n mynd i fanno weithiau i gael gafael ar wisgoedd.

Twm Morys

Be wyt ti’n feddwl o’r byd ffasiwn, wyt ti’n meddwl mai lol ydi o i gyd?

I mi mae o’n gwbl, gwbl annealladwy. Mae o’n ddirgelwch i mi sut mae pobl yn mynd i boeni cymaint am be’ ma’ nhw’n rhoi amdanynt. Ond ar y llaw arall, ma ‘ngwraig i hefo diddordeb mawr ynddo fo. Ma’ hi’n prynu’r cylchgronau ‘ma sydd yn dangos pobl sydd yn enwog ar gownt eu bod nhw’n cael eu gweld yn yr hyn maen nhw’n wisgo. Dyna’r unig beth sydd yn eu gwneud nhw’n enwog a’u bod nhw wedyn yn dechrau ryw fath o ffasiwn a bod pawb arall yn eu dynwared nhw. Ond fod pobl yn mynd i boeni cymaint amdano fo, dyna sy’n ddirgelwch i mi.