Cwpwrdd Dillad: Vallan Astley
Vallan Astley
Vallan Astley
Vallan Astley
Vallan Astley

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Brodor o Ynys Môn yw Vallan Astley, nad oes ganddo lawer o ddiddordeb mewn dillad – ond wrth siopa byddai ‘cyfforddus’ yn dod ar dop y rhestr a ‘ffasiynol’ ar y gwaelod. Un dilledyn mae ganddo hoffter mawr tuag atynt yw pâr o Hi-tech Silver Shadows!

Vallan Astley

Nia: Sut fyddi di’n disgrifio dy berthynas gyda dillad?

Dwi’m yn mynd allan o’n ffordd i wisgo i fyny fel o’n i – dwi ddim yn gweld llawar o bwynt. Fyswn i ddim yn mynd allan i brynu siwt heblaw fod gen i gnebrwn neu briodas i fynd iddi.

Vallan Astley

Nia: Mi ges di rhyw drobwynt yn dy fywyd yn ystod y blynyddoedd diweddar yn do?

Do, fe wnaeth problem hefo fy nghefn fy stopio i rhag gwneud petha’ o’n i isho gwneud. O’n i methu cerdded ac yn gorfod gwneud lot o eistedd o gwmpas a gorwedd i lawr a sbio ar y bedair wal yn cau i mewn arna i weithia’. Mae o wedi’w sortio rwan ond bod ‘na ryw broblem hefo’r nerf sydd ddim yn mynd i fynd i ffwrdd. Mae’r tabledi’n helpu ond mae o wedi newid fy mywyd i. Dwi’m yn mynd allan, dwi ddim yn yfad fel oeddwn i, ddim yn gwisgo siwtiau. Dwi’n dueddol o wisgo sgidiau cyfforddus fel trainers i wneud pob dim o gwmpas y tŷ. Hi-tech silver shadows i neud bob dim!

Vallan Astley

Nia: Nawr mae Eleanor yn mynd i ddod yma i dy helpu di i esblygu dy steil – i ysgogi rhyw fath o newid. Sut wyt ti’n teimlo am y profiad yma sydd o dy flaen?

Wel mae’n dibynnu ar be’ mae hi am wneud! Os ‘di am daflu pethau allan, dwi am fynnu cael nhw nôl! Does gen i ddim lot o ddillad mond dillad pysgota, dillad gwaith a dillad bob dydd.

Vallan Astley

Eleanor: Mae’r crys yma wedi dyddio – mae’n edrych fel rhywbeth o oes Wham – y sidan ysgafn a’r patrwm. A’r siwmper yma, mae hi bach yn hen a ddim i’r funud.

Dwi ddim i fyny i’r funud!

Vallan Astley

Eleanor: Dwi’n mynd i neud chdi i’r funud! Pa bryd oedd y tro dwytha es di i siopa?

Cwestiwn da – dwi’m yn cofio!


Vallan Astley

Nia: ‘Sa gen ti rhestr o flaenoriaethau, tua pa rif ar y rhestr fydda ‘cyfforddus’ a ‘ffasiynol’?

Cyfforddus yn gynta a ffasiynol yn olaf!


Vallan Astley

Nia: Be am dy ‘Silver Shadows’ di?

Dwi ddim yn cael ymadael â rheina – does na no wê!


Vallan Astley

Eleanor: Hi-tech silver arrows?

Silver Shadows! Mae’r Silver Shadows yma am byth! Mae’r ffatri’n saff lle bynnag mae o, dywad ti wrtha nhw!


Vallan Astley

Eleanor: Ti’n mynd i edrych lot yn well yn y dillad newydd yma. Ti’n mynd i edrych lot yn iau achos ti di bod yn gwisgo’r hen bethau ma! Maen nhw wedi bod yn gwneud i ti edrych yn hŷn, dwi’n teimlo. Mae ‘na sawl pâr o drowsus i ti – ma nhw’n eithaf smart ond ti’n gallu gwisgo nhw fel trowsus hamddenol hefyd. Mae ‘na fwy o liw, oherwydd ti ‘di bod yn gwisgo lliwiau rhy dywyll, ac un got dda – dwi’n gobeithio y byddi di’n ei hoffi ac ella’ nai neud rhywbeth bach hefo dy wallt. Ma ‘na ffasiwn a ma’ ‘na steil, a mae’n bwysig gwisgo petha’ sy’ ddim am ddyddio.

Vallan Astley

Nia: Wyt ti wedi mwynhau’r profiad?

Dwi 'di mwynhau’r hwyl a’r sbort a dwi 'di dysgu rhwbath gwahanol am ddillad, rhwbath fyswn i byth yn meddwl amdan. Nai feddwl mwy am be dwi’n wisgo yn y dyfodol - dim pob dydd da chi’n cael eich pampro!

Vallan Astley

Nia: Dwi’n meddwl tasa ti’n mynd i’r gwaith yn dy ddillad newydd – dwi’m yn meddwl mai stic fysa ti’n gael ond syndod ar yr ochr orau a pawb yn dweud bod ti’n edrych yn grêt!