



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Vivienne Westwood yn un o gynllunwyr mwyaf adnabyddus Prydain ac yn enwog am ei chynlluniau trawiadol. Wedi sefydlu ei henw yn oes pync y 70au gyda'i defnydd o gadwyni, tartan a rhwygiadau, mae ei chynlluniau ffraeth a moethus yn flaenllaw yn y byd ffasiwn ac mae ei ffrogiau yn drysor yng nghwpwrdd dillad miloedd o bobl.
Rhodri Ellis Owen
Mae Rhodri Ellis Owen yn ŵr busnes sydd yn trysori ei ddillad Vivienne Westwood.
Fedri di egluro i mi pam fod dillad Vivienne Westwood yn apelio atat ti?
Mae ei ffasiwn yn fyd eang, ac yn apelio at gymaint o bobl sydd ishe prynu dilledyn hollol unigryw - a bod yn rhan o ddychymyg Vivienne Westwood mewn ffordd.
Ti'n ddigon ffodus i fod yn berchen ar ddau ddarn o waith Vivienne Westwood. Beth sydd mor arbennig am y darnau sydd gen ti?
Mae wedi bod yn uchelgais gen i ers amser i gael darn gan Vivienne Westwood, beth bynnag oedd e'n mynd i fod. Digwydd bod, ro'n i wedi bod yn y siop ma' yn y Bontfaen ac mi weles i'r siaced yma ar y silff yn fy maint i, yn edrych arna i yn dweud 'pryna fi' a nes i feddwl, reit 'go for it'. Dwi'n meddwl fod o wedi bod yn fuddsoddiad hynod o grefftus mewn ffordd, gan mod i wedi ei gwisgo hi bron bob dydd ers hynny ac mae'n hen ffrind i mi erbyn nawr. Rhywbeth sy'n ffitio fi yn dda, ond eto, dyw e ddim yn rhy zaney fel falle y byddai pobl yn disgwyl i bethau Vivienne Westwood fod. Mae'n eitha' ceidwadol gydag 'c' fach!
Mae gen ti drowsus Vivienne Westwood hefyd yn does?
Ma'r un stori gyda'r trowsus. Nes i feddwl, ma' da fi'r siaced nawr, felly fydd raid i mi gael rhywbeth i wisgo gyda hi. Wedyn weles i'r trowsus ma' a meddwl eu bod nhw'n eitha' quirky gyda'r pinstripe a'r llinellau yn mynd i'r fan hyn a fan draw. Nes i feddwl eu bod nhw'n gweddu i mi achos dwi'n hoffi fy ngwaith, ond eto dwi'n eitha' off the wall weithiau gyda rhai pethau dwi'n ei wneud...
Mae Vivienne Westwood wedi bod yn llwyddiannus drwy gyfuno'r traddodiadol gydag anghydffurfiaeth. Ydy hynny hefyd yn rhan o dy gymeriad di?
Dwi'n meddwl fod hunan hyder Vivienne Westwood yn apelio i mi hefyd, a'r ffordd mae'n defnyddio ei dillad fel elfen arall o'i chymeriad. Dyna'r ffordd dwi'n gweld dillad hefyd, ac wrth eu gwisgo nhw dwi'n cael rhyw fath o hunan hyder. Dwi'n gwisgo rhywbeth sy'n glasur dwi'n meddwl, yn ddarn o gelf.
Fel rhywun sy'n rhedeg dy gwmni cyfathrebu dy hun, wyt ti'n cytuno fod Vivienne Westwood wedi bod yn llwyddiannus yn marchnata ei hun dros y blynyddoedd?
Ydy, mae hi'n hynod unigryw ac mae gen i edmygedd mawr tuag ati a'r ffordd mai wedi datblygu'r busnes i fod yn frand byd eang.
Lisa Hunt
Sut deimlad oedd cael priodi mewn ffrog briodas Vivienne Westwood?
Roedd y teimlad eich bod chi ar ddiwrnod eich priodas yn gwisgo'r ffrog fwya' anhygoel chi erioed yn mynd i gael gwisgo yn wych. Ma' hi'n anodd credu wrth edrych arno fe nawr, ma' rhaid i fi ddweud.
Felly pam wnes di ddewis y ffrog yma, ai am mai Vivienne Westwood oedd hi?
Doeddwn i ddim wedi bwriadu prynu ffrog Vivienne Westwood, doeddwn i ddim yn gwybod beth o'n i moyn prynu a bod yn hollol onest. O'n i ddim yn siŵr beth fydden siwtio fi, ac wrth gwrs, ar ddiwrnod eich priodas chi moyn edrych mor ffantastig a gallwch chi. O'n i wastad wedi meddwl y bydden i'n hoffi trio ei dillad hi, hyd yn oed os fyddwn i'n prynu dim. Felly fe aethon ni mewn, a dries i rai ffrogie mlaen ac yn y diwedd fe ddaeth y cyfuniad yma. Nes i jyst edrych yn y drych, ac edrych draw at mam a Mij, a roedd y ddwy ohonyn nhw'n eistedd yna'n mynd, 'O, ti'n edrych yn ffantastig, ma' raid i ti gal e', a dyna beth ddigwyddodd. 'May West' yw enw'r sgert a ma' fe fel siâp pysgodyn ond ma'n dod mas bach yn hirach yn y cefn. Wedyn ma' na gorset sy'n eithaf tynn, ond yn hyfryd - ma' fe'n gwasgu chi yn y darne iawn! Ma'r siaced yna'n clymu gyda bow bach ar y tu blaen, a hwnna i fi nath wneud y wisg. Rodd y siaced fel tase fe'n fframio'r holl wisg mewn gwirionedd.
Wyt ti'n gwybod pam fod yna ruban bach glas tu fewn i'r corset?
Doeddwn i ddim yn gwybod am hwnna nes i mi gael y corset terfynol, ar y diwrnod ola', ma' fe'n dwtsh bach mor hyfryd. S'dim byd arall gyda fi o'i gwaith hi, ond dwi'n meddwl ei bod hi'n ddiddorol iawn. Dydw i ddim o angenrheidrwydd wastad yn cytuno gyda phopeth ma' hi'n ddweud, a ddim wastad yn hoffi popeth mai wedi ei gynllunio chwaith, felly i fi yn fwy na dim, y ffrog yma wnaeth wneud i mi gwympo mewn cariad gyda'i gwaith hi a gyda'i dillad hi yn fwy na dim byd arall.
- CWPWRDD DILLAD