



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Dillad ydy’r peth olaf ar feddwl Wendy Edwards sy’n fam i 4 o blant ac sy’n gweithio yn llawn amser. Mae ei ffrindiau Buddug a Non wedi ei pherswadio i adael i ni drawsnewid ei chwpwrdd dillad.
Falla fod Maenclochog yn le digon distaw'r olwg, ond does yna ddim heddwch i’w gael yng nghartref Wendy a’i theulu ac mae ei chwpwrdd dillad yn mynd yn drech arni.
Lle wyt ti’n dechrau wrth fynd i siopa?
Sa’ i’n dwli ar siopa. Pan dwi’n meddwl fod yn rhaid i mi gael rhywbeth, dwi’n mynd mewn i’r siop a ffili gweld dim. Wedyn dwi’n trio pethe a ‘di o ddim yn edrych yn iawn, felly dwi’n cael llond bola.
Welais i’r top yma yn Seconds Ahead, a phan gyrhaeddais i adra dyma’r plant yn deud, “so chi’n mynd allan yn hwnna?” a wedes i, “Odw. Mae e’n newydd a dwi’n mynd i wisgo fe!”
Ar ba achlysur fydda ti’n gwisgo’r wisg yma?
Byddwn i’n gwisgo hon i fynd i’r ysgol Sul neu i’r Capel a falla i ryw gyfarfod. Dwi’n meddwl i fod o’n eitha’ teidi... gawn ni weld beth fydd gan Eleanor i ddweud!
Eleanor: Mae Wendy yn berson deniadol dros ben, felly ma' hi angen dathlu hynna. Dyna pam dwi wedi dewis dillad lliwgar a phetha' sydd wedi eu torri yn fwy feminine. Y gobaith ydy cael gwared â’r hen ddillad sydd ddim yn gwneud y gorau o’i siâp hi a’i chael hi mewn i bethau gwell sy’n mynd i neud iddi edrych fel ‘yummy mummy’.
Does ‘na ddim lot o drefn ar ei chwpwrdd hi, ac mae ‘na lot o hen ddillad yma hefyd. Dillad sy’n dyddio yn ôl i’r 90au.
Mae bronnau yn rhywbeth grêt. Os oes gen ti fronnau mawr maen nhw’n werth eu dathlu - ond mae’n rhaid dathlu yn y ffordd iawn! Ar gyfer Wendy mae’n bwysig ei bod hi yn gwisgo topiau neu siwmperi gyda gwddw siâp ‘V’ dwfn sy’n tynnu’r llygaid i lawr i’r wast. Er ei bod hi yn fam i 4 o blant, tydi o ddim yn golygu fod yn rhaid iddi stopio dangos siâp ei chorff.
Mae Wendy angen gwisgo lliwiau cryf fel pinc neu goch. Mae dillad golau yn gwneud i’w chroen hi edrych yn llwyd. Dwi’n meddwl bod hi’n bwysig gwisgo lliw oherwydd wrth roi lliw ymlaen mae rhywun yn teimlo’n fwy positif yn syth.
Mae’n rhaid cael cwpwrdd dillad taclus oherwydd pan mae rhywun yn codi yn y bore, y peth dwytha' mae rhywun am ei weld ydy llanast. Mae angen gweld trefn er mwyn penderfynu beth i wisgo’r diwrnod hwnnw. Mae’n swnio braidd dros ben llestri, ond mae o’n gweithio!
Ma’r wisg yma yn ffantastig!
Dwi’n meddwl fod y lliw coch yn codi’n ysbryd i! Fydda chi ddim yn credu y byddai lliw yn gwneud cymaint o wahaniaeth, ond mae o. Dwi’n licio hon a dwi’n siŵr y ca’i lawer o ddefnydd ohoni.
Mae’r wisg yma ychydig mwy ffurfiol ar gyfer mynd allan.
Mae’r wisgo hon yn gyfforddus iawn a ma’r bŵts yn cwato’r coese felly dwi’n hapus am hynny. Fydda ni byth wedi rhoi brown gyda llwyd a’r coch tywyll, ond dwi’n meddwl i fod nhw yn edrych yn neis gyda’i gilydd.
Wyt ti wedi mwynhau'r profiad o gael dy weddnewid?
Mae wedi bod yn brofiad gwych i gael Eleanor yma i ddweud wrtha i pa steil a lliwiau sydd yn fy siwtio i. Mae o wedi bod yn newid byd i mi a bydd rhaid i mi edrych ar ddillad mewn ffordd wahanol o hyn ymlaen a bod yn fwy parod i drio petha' gwahanol ymlaen. Dwi’n teimlo’n eitha’ hyderus ac mae wedi neud i mi ystyried y dyla mod i yn rhoi mwy o amser i fi fy hun, a dwi’n credu nawr falla y bydda i yn.
- CWPWRDD DILLAD