



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Ffermwr ifanc o Lanwrin yn cael dillad gyda dipyn o steil
‘Da ni ar bedwerydd cenhedlaeth rwan, yn ffermio yn fan hyn. Pan dwi fyny yn y mynyddoedd yn y tywydd braf, mi fedrwn i gerdded yn noeth dim problem, ‘di o ddim yn poeni llawer arna i, ‘di o ddim yn bwysig be ‘da chi yn wisgo fan hyn falle, ond mae eisiau bod yn gyfforddus a gwisgo ar gyfer y tywydd.
Dwi’n gweithio ar y fferm yn llawn amser hefo dad a ‘mrawd i. Dwi wedi gorffen ffermwyr ifanc, wedi mynd yn rhy hen! Dwi’n chware rygbi i dîm Machynlleth, trio cadw lle yn y tîm cynta, mae o’n ddipyn o job!
Dwi’n mynd allan dipyn i Fachynlleth, Aberystwyth, Royal Welsh, Sesiwn Fawr a rywbeth sy’n mynd rili!
Dillad gwaith ydy rhain a bod yn onest, hen ddillad nos Sadwrn ydyn nhw fel arfer. Pan ma’ nhw yn mynd ychydig rhy scruffy i nos Sadwrn ma’ nhw yn dod lawr y lein a dwi’n ei gwisgo nhw ar y fferm wedyn. Dwi ddim yn un am fynd i siopa ryw lawer. Dwi’m yn Cardi na dim, ond dwi ddim yn gweld pwynt gwario gormod ar ddillad achos ma pobl yn diflasu arnyn nhw yn y diwedd. Un ai ma’ nhw yn mynd yn rhy fach i fi, neu ma pobl yn deud ei bod nhw allan o ffasiwn, dwi’m yn gwybod. Dwi’n prowd o’r ffaith mod i yn ffarmwr, ond dwi ddim yn mynd i drio edrych yn stereotypical. Ma ‘na ffashiwn allan yna ond mae o’n reit neis trio bod ‘yn y groove’ fel petai!
Nia: Wyt ti’n edrych ymlaen at y profiad o gael dy drawsnewid, i bob pwrpas?
Dwi yn edrych ymlaen i ddeud y gwir, i weld beth sydd ganddi i gynnig, o ran y dillad wrth gwrs! Mi fydd yn ddiddorol gweld be ma’ hi’n mynd i allu neud hefo fi. Dwi’n un go anodd i berswadio i rywbeth newydd. Mae Eleanor yn gallu bod yn ddynas reit stern tydi!
Eleanor: Wyt ti’n licio’r crys yma?
Yndw, yn enwedig yn yr haf dwi’n licio crysau hefo llewys byr arnyn nhw.
Mae gen ti freichiau hefo lot o gyhyrau mawr arnyn nhw, ond y peth ydi mae crysau fel hyn yn mynd i ddyddio oherwydd y print drosto fo, mae’n mynd allan o ffashiwn yn gyflym. Hefyd dydy’r defnydd ddim o ansawdd da felly mae o’n mynd i ddifetha yn gyflym. A dwi’n meddwl ei fod o’n rhy ifanc i ti erbyn hyn, ma hi’n amser i ti symud ymlaen tipyn bach a dechrau datblygu delwedd ‘chydig bach fwy soffistigedig.
Alla i ddim hyd yn oed dweud y gair yna!
Mae pinc wedi bod yn ffasiynol i ddynion ers canrifoedd a dwi’n gwbod dy fod di’n gallu gwisgo lliwiau cryf!
Dwi’n ffendio fo yn fwy secsi os ydy dynion yn gwisgo crysau hefo llewys hir. Mae’r streips ar y crys yma’n draddodiadol dros ben ac yn glasurol, neith o fyth ddyddio.
Siwt ydy hon nes i brynu yn 2001 pan o’n i yn Gadeirydd Ffermwyr Ifanc. Ond dwi wedi ei gwisgo hi i gymaint o angladdau a ballu, dwi wedi diflasu arni a deud y gwir. Mae’n bechod achos wnaeth hi gostio rhyw ganpunt!
Dydi’r siap ddim yn gweddu siap dy gorff di, a tydi o ddim yn gwneud y gorau ohona ti. Byddai siwt mwy traddodiadol yn edrych yn well, lle bod gen ti’r lapels yn mynd i lawr y canol, oherwydd mae gen ti gorff mawr ar y top.
Ti’n berson tal, mae gen ti goesau hir ond mae’n bwysig pryd ti’n mynd allan i siopa i sicrhau fod y siaced yn cyrraedd y lle iawn ar y coesau, dim yn rhy hir nac yn rhy fyr.
Gad i ni siarad ychydig bach amdana ti rwan. Ti’n foi golygus dros ben, a mae gen ti ddipyn o ‘baby face’ sydd yn beth da wrth gwrs achos pan fyddi di’n hŷn ti’n mynd i edrych yn ifanc! Ond oherwydd hynny, mae yna rai dillad na ddyliech chdi wisgo. Ti angen gwisgo pethau ychydig bach yn fwy soffistigedig, felly dwi wedi dewis lot o siwmperi lliwgar a ma’ ‘na siwmper pinc yma! Dwi’n gwybod y medri di wisgo lliwiau cryf ond fe fedri di hefyd wisgo lliwiau tawel.
Dwi’n teimlo ‘chydig bach yn smartiach a ‘chydig bach yn fwy prowd o’n hunan falle. Yn sicr mae Eleanor wedi agor fy llygaid i ‘chydig bach.
Nia: Ti wedi dod yn bell iawn o’r crys-t hefo’r tylla ac olew a baw arnyn nhw!
Dwi’n teimlo dipyn yn smartiach ond fydda i ddim yn gwisgo rhain i’r gwaith!
Dwi wedi mwynhau trio’r holl ddillad ymlaen a trio bod yn gyfforddus o flaen y camera, trio peidio edrych yn wirion. Dwi ddim yn gwybod os dwi wedi gallu gneud hynny!
Dwi wedi mwynhau y profiad o ran y dillad. Dwi wedi trio pethau ymlaen na faswn i erioed wedi meddwl trio mewn siop. Rhai o’r gwisgoedd dwi ddim yn meddwl y byddwn i yn ei gwisgo nhw i lawr i’r White Horse na dim byd fel na, falle i Gaerdydd, Llundain neu rwla fel’na faswn i ddim yn edrych mor wirion!
Mae gan ddillad y pŵer i neud i chdi deimlo yn reit wahanol, felly pan oedda chdi yn gwisgo rhai o’r petha yma wyt ti’n teimlo yn wahanol mewn unrhyw ffordd?
O’n i’n teimlo fel bod gen i fwy o werth, yn fwy parchus ac yn berson fwy llawn, fel petai.