Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Wyn Morris
Wyn Morris
Wyn Morris
Wyn Morris
Wyn Morris

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Wyn yn berchennog ystablau sydd yn gwisgo yn ôl ei geffyl.

Wyn Morris

Be fasa ti'n ddweud ydy rôl dillad yn dy fywyd di?

Y ceffylau ddaeth gyntaf. Wedyn er mwyn i mi wneud fy ngwaith yn haws dwi ishe gwisgo'n iawn ac edrych y rhan, edrych yn broffesiynol, a dyna sut mae'r dillad wedi dod. Dwi dipyn bach o 'perfectionist' - gwisgo'r dillad iawn ar yr amser iawn - ma' hynny'n eitha' pwysig i mi. Sa' i moyn edrych fel 'nutter' yn gwisgo tweed a phawb arall mewn jîns!

Wyn Morris

Lle wyt ti'n prynu'r holl ddillad gwahanol yma?

Dwi'n pigo rhan fwya' ohonyn nhw lan yn y sioeau, fel y Sioe Frenhinol. Ma' dillad ffantastig yno a rydych chi'n gallu prynu nhw 'off the peg' neu gael eich mesur iddyn nhw ffitio corff fel sydd 'da fi!

Wyn Morris

Pa fath o ddillad fyddi di'n eu gwisgo i arddangos y ceffylau?

Mi fydda i'n gwisgo siwt tweed i ddangos Mountain and Moorelands. Ma'r siwt yma gen i ers byti ddeg mlynedd nawr ac mae wedi cadw'n deidi. Ma' gwisgo dillad neis, dillad sy'n ffitio'n deidi yn gwneud i mi deimlo'n well. Hyd yn oed os nad oes y ceffyl gore 'da chi, os ydych chi'n edrych yn broffesiynol yna mae'n dod ar draws felly.

Wyn Morris

Wyt ti'n gallu dyfalu pa geffyl mae rhywun yn mynd i'w arddangos o'r hyn y ma' nhw yn ei wisgo?

Ma' rhai pobl yn ei gael o'n anghywir, ond y rhan fwyaf o'r amser ti yn gallu dweud o'r hyn y ma' pobl yn ei wisgo be ma' nhw'n mynd i arddangos! Etiquette ydy'r rhan fwyaf ohono fe, ma un neu ddau o reolau, ond etiquette ydy rhan fwyaf ohono fe.

Wyn Morris

Ydy pobl yn gwisgo yn wahanol mewn mannau gwahanol?

Yn Lloegr, ma' 'na lawer mwy o 'green welly brigade' a tweed. Fe aethon ni i rasio pwynt i bwynt yn Lloegr yn ddiweddar, a sa' i wedi gweld cymaint o tweed erioed! Roedd pob un - y dynion, merched a'r plant - pob un yn gwisgo tweed! Ma llawer mwy o tweed yn Lloegr na sydd yng Nghymru.

Wyn Morris

Wyt ti'n gwisgo'n wahanol pan fyddi di'n beirniadu mewn sioeau?

Mi fyddai'n gwisgo'r siwt dywyll yma i feirniadu ac i ddangos y 'show ponies'. Dwi'n gallu gwisgo crys a thei lliwgar gyda fe. Wrth feirniadu, mi fyddai'n tynnu'n het i ffwrdd pan dwi wedi dewis yr enillydd. Ma pobl yn licio gweld chi'n tynnu'ch het ffwrdd!

Wyn Morris

Beth fydd di'n ei wisgo i fynd i hela?

Mi fydda i'n gwisgo'r gôt goch yma i fynd i hela. Dwi'n ei gwisgo hi ar ddiwrnodau sbeshal fel Dydd San Steffan a Dydd Calan. Dydy pawb ddim yn gwisgo siacedi coch, dim ond y meistri. Rydych chi'n cael eich gofyn i fod yn feistr, felly 'da chi ddim yn gallu codi un bore a phenderfynu eich bod chi'n feistr - chi'n gorfod cael y parch ac wedyn cael eich gofyn i fod yn un.

Wyn Morris

Beth yw arwyddocâd y botymau ar y gôt?

Fel meistr, ma' pedwar botwm ar y siaced yma, pump i'r bobl sydd yn gweithio i'r helfa a thri i bobl gyffredin! Ma' botymau yn mynd nôl flynydde hefo hela, ma' nhw wedi eu gwneud mas o ledr neu rwbath tebyg a llun ceffyl arno fe a llyfrennau'r PHC - Pembrokeshire Hunt Club.

Wyn Morris

Dwi'n licio'r bŵts anhygoel yma! Lle ges ti rhain?

Cael rhain gen ffrind wnes i. Ryw soldiwr o Rwsia oedd piau nhw ac roedd 'na Cuban heel mawr arnyn nhw. Doedd yn ffrind ddim yn gwybod beth oedd e'n mynd i wneud â nhw felly fe feddyliais i, 'ga fi rhain'. Fe wnes i eu haltro nhw a dwi wedi eu gwisgo nhw i hela ers hynny. Ma' nhw 'da fi ers sawl blwyddyn bellach.

Wyn Morris

Be sydd mor arbennig am rasio ceffylau?

Yr adrenalin rush! Unwaith chi wedi ei wneud e, ma'n rhaid cadw i fynd wedyn, mae o'n real thrill. Sa' i'n betio na dim fel 'na, ond mae'n neis gweld y ceffyl yn rhedeg, ac yn rhedeg yn dda, gan wella hefo pob ras. A neis gweld nhw'n ennill wrth gwrs!

Wyn Morris

Pam fod gan bob joci liwiau gwahanol?

Ma' pawb sydd berchen ceffyl â lliwiau ei hunain. Mae gen i geffyl gwyn, a'i liwiau o yw gwyrdd a coch a chap gwyn. Fy lliw i fy hun yw glas a du. Pan nes i ddechre reidio pwynt i bwynt yn hunan, ro'n i'n cwympo shwt gymaint, glas a du o'n i'n beni lan prun bynnag felly dyna shwt ddes i i wisgo glas a du!

Wyn Morris

Mi wyt ti'n hoff iawn o fanylion ac yn enwog am dy sanau yn ôl pob sôn!

Yndw! Dwi'n licio cael ychydig bach o sbort hefo fy nillad. Does dim pwynt gwisgo'n rhy ddiflas a chymryd popeth yn ddiflas - mae'n rhaid cael 'chydig bach o sbort.

Wyn Morris

Dwi'n siŵr nad oes yna lawer o ddynion yn gwisgo trowsus pinc yn y cylch cystadlu yn nagoes?

Dim eto, ond watch this space - ma' nhw'n siŵr o ddilyn!

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales