



Gwelwyd ffasiwn yn tueddu tuag at ffabrigau ysgafn fel crêp, sidanau a satin yn ystod y 1920au gan barhau i'r 30au, er, fe ddechreuodd dillad gael mwy o strwythur iddynt. Gwisgwyd hetiau dros un llygad a thros wallt llyfn, a roedd ffrogiau dydd yn codi tua 10 modfedd o'r gwaelod. Roedd coleri ffwr steil Nina Ricci a siacedi beltiau cul â broetshis yn boblogaidd.
Anogodd diwedd y Rhyfel deimlad mwy rhydd a llai ffurfiol o ran ffasiwn. Tystiwyd gwisgoedd gwisgoedd tebyg i rai chwaraeon ac erbyn hyn roedd hi'n gyffredin i weld merched yn gwisgo trowsus. Pan ddechreuodd pobl drafeilio unwaith eto, gwelwyd renaissance yn y defnydd o liwiau bywiog.
Fel pob cyfnod, roedd ffasiwn yn gysylltiedig â chelf y cyfnod arbennig hwnnw. Er enghraifft, roedd dyluniadau arloesol Elsa Schaparelli wedi eu dylanwadu gan y Swrrealwyr. Fe wnaeth hi gomisiynu rhai o arlunwyr gorau'r cyfnod fel Salvador Dali, Jean Cocteau a Christian Berard i ddylunio ffabrigau a brodweithiau iddi.
Y dylunydd Ffrangeg Madeleine Vionnet oedd yn gyfrifol am ddatblygu a phoblogeiddio ffrogiau oedd wedi eu torri ar y bias i harddu 'curves' y corff. Er mwyn ei galluogi i gael yr olwg mwy rydd a llyfn yma, roedd rhaidd iddi hepgor corsedau a thorri ar draws graen y defnydd i'w alluogi i symud yn fwy llyfn a rhydd a glynu at y plygiadau.







