Neidio at y cynnwys

S4C
Troi'r Camerâu

Dyma lle y byddwn yn troi'r camerâu ar griw cynhyrchu Cwpwrdd Dillad. Byddwn yn eu holi am eu harferion siopa ac yn rhoi cipolwg i chi o'u Cwpwrdd Dillad nhw!

nia parry

Nia Parry: Cyflwynydd

Nia Parry yw Cyflwynydd Cwpwrdd Dillad. Mae gan Nia brofiad helaeth o gyflwyno. Mae ganddi ddawn arbennig o gyflwyno â'i natur hyfryd yn llwyddo i wneud i'r cyfranwyr deimlo'n gartrefol a chysurus wrth gymryd rhan.
gwenda griffiths

Gwenda Griffiths: Uwch Gynhyrchydd

Gwenda Griffith ydy Uwch Gynhyrchydd Cwpwrdd Dillad. Gwenda lwyddodd i werthu'r syniad am "raglen am bobl a'u dillad" i S4C. Mae'r syniad yn deillio o ddiddordeb Gwenda mewn dillad ac mewn pobl, ac mae'r gyfres yn perthyn yn agos iawn i 04Wal sy'n edrych ar bobl a'u cartrefi. Fel Uwch Gynhyrchydd, hi sydd a'r gair olaf ar y cynnwys. "Fy swyddogaeth, unwaith mae'r comisiwn yn ei le, ydy sicrhau safonau cynhyrchu, a bod ar gael i fynegi barn".
eleanor gardner

Eleanor Gardner: Steilydd Ffasiwn

Steilydd Ffasiwn yw Eleanor Gardner sydd yn trawsnewid cypyrddau dillad unigolion yn y gyfres ddiweddaraf o Gwpwrdd Dillad. Yn wreiddiol o Fangor, mynychodd Eleanor gwrs yng Ngholeg Ffasiwn Llundain, y coleg ble dysgodd Jimmy Choo ei sgil fel dylunydd esgidiau. Gweithiodd hi wedyn ar gasgliad cyntaf Jade Jagger a hefyd i Louis Vuitton cyn symud i faes steilio dillad.



  • CWPWRDD DILLAD