Troi'r Camerâu : Gwenda Griffiths : Uwch Gynhyrchydd
UWCH GYNHYRCHYDD : Cyflwyniad | Hoff ddillad | Ffeithiau ffasiwn

gwenda griffiths
gwenda griffiths
gwenda griffiths
gwenda griffiths

Sut fyddech chi'n disgrifio eich steil?

Clausurol - "with a contemporary twist"!

Oes gyda chi lot o un math o ddillad yn eich cwpwrdd?

Oes - mae gen i lot o ddillad du yn fy nghypyrddau!

Oes gyda chi ryw fath o drefn penodol i'ch cwpwrdd?

Mae dillad gaeaf a dillad haf yn cael eu cadw ar wahan, ac fe fyddaf yn eu symud o un cwpwrdd i'r llall fesul tymor. Rydw i'n hynod drefnus ac yn licio gweld fy nillad yn edrych fel petaent yn dal mewn siop!

Ydych chi'n cadw dillad am gyfnod hir heb eu gwisgo?

Mae na ambell ddilledyn fydd yn aros yn hir cyn gael ei wisgo - fel arfer oherwydd ‘mod i'n aros am yr achlysur priodol!


Ydych chi'n meddwl fod dynion mor ymwybodol o ffasiwn a merched?

Na tydy'r mwyafrif o ddynion ddim yn ymwybodol o ffasiwn. Tyden nhw ddim yn gweld sut mae posib cael sbort gyda dillad - mae nhw'n hollol ddi-ddychymyg.

Pwy sy'n eich ysbrydoli o ran ffasiwn? Oes unrhyw seren yr ydych yn eu edmygu o ran eu ffasiwn?

Tydw i ddim yn edrych am ysbrydoliaeth gan neb - heblaw'r cynllunwyr eu hunain. Dwi'n gwybod beth dwi'n licio a dwi'n gwybod beth sydd yn fy siwtio. Fy hoff gynllunwyr ar y funud ydy Betty Jackson (sydd wedi cael adfywiad yn y blynyddoedd dwetha), Jean Muir ac Amanda Wakely. Wedyn mae na labeli eraill llai drud fel Day, CDCK a chwmniau eraill o Ddenmarc.

Pa fath o siopwraig ydych chi?

Rydw i'n siopa yn helaeth ar ddechrau'r gwanwyn/haf ac ar ddechrau'r hydref/ gaeaf. Rydw i'n trefnu fy siopa, ac yn prynu "darnau" dwi'n gwybod fydd yn glasuron am flynyddoedd. Fel arfer mae'r rheini yn ddrud. Mi fyddai wedyn yn prynu atodion a darnau eraill sy'n hwyl ac yn llai costus, ac yn mwynhau cymysgu'r cyfan. Byddaf yn prynu "look" gyflawn  yn hytrach na darnau unigol.Mae llawer o feddwl yn mynd i'r broses.

Eich hoff siopau?

Fyddai ar y cyfan dim ond yn siopa mewn dwy siop – ‘Body Basics’ a ‘Jon Ian’ yng Nghaerdydd. Mae'r siopau yn f'adnabod, a rydw i'n eu ‘nabod nhw. Does gen i ddim amynedd treulio oriau yn cerdded rownd siopau; gwell gen i fynd i un lle ble rydw i'n weddol siwr o ffendio beth rydw i ei eisiau.    

Gawsoch chi drychineb ffasiwn erioed? Oes un dal i fod yn eich cwpwrdd?!

Tydw i ddim yn gwybod beth ydy trychineb ffasiwn! Felly, na chefais i erioed un! er mae na ambell i ddarn sydd heb ei wisgo ryw lawer, ond fyddwn i ddim yn galw hynny yn drychineb. Rydych newydd siarad gyda rhywun sy'n caru dillad - er tyden nhw ddim y peth pwysica mewn bywyd. 

    CWPWRDD DILLAD

  • Cyfres yn dychwelyd nos Fercher 3 Medi 20:25