Neidio at y cynnwys

S4C
Troi'r Camerâu : Nia Parry : Cyflwynydd
*
*
*
*

Sut fyddech chi'n disgrifio eich steil?

Rhamantaidd ac yn llawn dop o bethau cwbl girlie a phinc.

Oes gyda chi lot o un math o ddillad yn eich cwpwrdd?

Fedra i wario llwyth o arian ac yna pan dwi'n dod adre dwi'n sylweddoli mai topiau bach del, glitzy ydyn nhw i gyd! Pryd dwi'n mynd i gael yr amser i'w gwisgo nhw i gyd, dwi ddim yn gwybod! Mae gwisgo fel dynes yn bwysig iawn i fi a dwi'n hoffi pethau merchetaidd iawn, ffrili, hefo deunydd neis a dwi wastad yn cael fy nenu at ddillad pinc. Mae'n lliw mor feddal a hapus.

Oes gyda chi ryw fath o drefn penodol i'ch cwpwrdd?

Dwi'n anobeithiol dwi'n gwybod - ond mae yna ryw fath o drefn i fy nghwpwrdd! Dwi'n trio cadw'r drysau ar gau achos mae'n fy stresio i os dwi'n gweld pa mor flêr ydi o!

Ydych chi'n cadw dillad am gyfnod hir heb eu gwisgo?

Fe wnaeth cwrdd â'r hoarders yn y gyfres wneud i fi deimlo'n llawer gwell. Dwi'n dueddol o gadw popeth rhag ofn y daw nôl i ffasiwn ond ar ôl cwrdd â rhai o'r bobl yn y gyfres, dwi'n sylweddoli bod y'n hoardio i'n ddim o'i gymharu â rhai!


Ydych chi'n meddwl fod dynion mor ymwybodol o ffasiwn a merched?

Ar ôl byw gydag Aled, fy nghariad i, dwi'n gwybod yn iawn pa mor ymwybodol o ffasiwn y mae dynion! Mae o'n llawer mwy ymwybodol o trends na fi ac mae'n gwybod yn iawn be’ mae'n leicio. Mae ’nghwpwrdd dillad i'n dipyn o asgwrn cynnen rhyngddon ni a dweud y gwir achos mae fy nillad i’n mynd i'w ran o’r cwpwrdd! Mae'n fy nghyhuddo i o hogio'r lle i gyd! A dwi'n meddwl byddai'n well ganddo fo tase'r stafell ddim cweit mor binc hefyd!

Pwy sy'n eich ysbrydoli o ran ffasiwn? Oes unrhyw seren yr ydych yn eu edmygu o ran eu ffasiwn?

Mae Kate Thornton wastad yn edrych yn neis. Mae'n gwisgo'r math o ffrogiau y baswn i'n hoffi.

Pa fath o siopwraig ydach chi?

Dwi'n ofnadwy o impulsive. Dwi'n trio meddwl be’ dwi angen ond yn landio'n prynu'r pethau sy'n tynnu’n llygad i. Mae gen i gymaint o sgertiau yn y wardrob dwi wir yn leicio ond yn methu eu gwisgo nhw am nad oes gen i dops neu fwts i fynd hefo nhw. Dwi'n gweld pobl yn mynd allan i siopa ac yn prynu outfits cyfan a dwi'n genfigennus iawn ohonyn nhw!

Eich hoff siopau?

Howells, Caerdydd - Y man cychwyn bob amser gan fod digon o ddewis yno. Topshop - Cyfle i brynu lot o ddillad ffasiynol heb wario lot o bres River Island - Digon o sbarcl! Zara - Dewis da o bob math o ddillad. Siopau mawr Llundain - Os dwi eisiau rhywbeth i fynd i achlysur arbennig. Tase gen ffortiwn faswn i'n mynd am ddillad floaty a fflyrti Emanuel Ungaro neu Ben de Lisi. Dwi’n cofio syrthio mewn cariad hefo un o'i ffrogiau - ond roedd hi'n fil a hanner!

CWPWRDD DILLAD
BOB NOS FERCHER 20.30