Troi'r Camerâu : Gwenda Griffiths : Uwch Gynhyrchydd








- Sgert "ra ra" hir ddu mewn 'jersey' gan Betty Jackson; belt lledr 'wasp' Amanda Wakely; Siwmper ddu cashmere Amanda Wakely a siaced ledr ddu gyda pwythau coch gan Amanda Wakely! Prynwyd yr oll yn 'Body Basics' tua 4 mlynedd nôl ond mae nhw'n dal i fod ymhlith y ffefrynnau! Boots du o Jon Ian.
- Siwt ddu Jean Muir, gyda chrys du - 'Body Basics' eto!
- Siaced ledr felen / wyrdd gan Jean Muir, gyda sgert hir o liain gwyrdd golau. Sgidie haf sy'n wyn/gwyrdd/pinc o Jon Ian.
- Siwt hufen Amanda Wakely - a wisgais i briodas Becs llynedd.
- Côt o felfed hufen gyda brodwaith arian ac aur - Amanda Wakely. Dim ond wedi ei gwisgo unwaith er ei bod gennyf ers 18 mis. Mae'n debyg iddi gael ei chynllunio ar gyfer Diana cyn ei marwolaeth a dim ond un neu ddwy wnaethpwyd erioed - mae hi'n hyfryd! Darn i'w thrysori!
- Lot fawr o siacedi lledr a swêd o bob lliw a hyd!
- Mae gen i ddillad yn mynd nôl i'r 60au - gan Biba ac eraill. Mae gen i lawer o ddillad o'r 70au a'r 80au hefyd, llawer ohonynt yn glasuron. Fyddai dim ond yn cadw'r goreuon, ac yn rhoi'r gweddill i siopau elusennol.