Tips Ychwanegol

Byddwch synhwyrol...

Pan fo amser y sêl yn cyrraedd, peidiwch a chael eich temtio i brynu dilledyn oherwydd ei fod yn rhad. Mae llawer yn meddwl bod rhywbeth yn fargen os yw'n rhad neu'n rhatach nag ei bris gwreiddiol a hynny weithiau er nad yw'n ffitio'n dda nac yn eu gweddu ychwaith. Byddwch yn synhwyrol a meddwl - fyddech chi wedi dewis y dilledyn petai yn bris llawn? A yw'r dilledyn yn ffitio, a heb os, ydi'r dilledyn yn eich gweddu?

Peidiwch byth â phrynu dilledyn gyda'r bwriad o golli pwysau i'ch galluogi i'w wisgo. Anaml iawn y bydd pobl yn llwyddo i wneud hyn ac os prynwch chi hi, bydd y dilledyn yn siwr o gasglu llwch yng nghefn y cwpwrdd!

Byddwch glyfar...

Pan ydych yn siopa meddyliwch am y p.p.w ('price per wear'). Siopwr/wraig synhwyrol iawn sy'n siopa fel hyn. Os yw crys t yn £30 ac eich bod yn sicr y byddwch yn gwisgo llawer ohono yna mi fydd y p.p.w yn isel iawn - dim ond £1.50 o bosib. Ond, os brynwch chi bâr o sgidiau â sodlau uchel a drud, mae'n debygol mai dim ond ryw dair neu bedair o weithiau yn unig y byddwch yn eu gwisgo fyddai'n golygu y byddai'r p.p.w tua £50 o bosib.

Gwariwch fwy o arian ar y dillad craidd. Y pethau syml yna na fyddant yn dyddio, er enghraifft bag llaw, jîns, trowsus du, siwt, esgidiau du neu liw brown naturiol a phethau sy'n cyfuno'n dda gyda lliw a chyda'i gilydd.

Colur a gwallt...

Mae hi'n werth gwario ychydig yn fwy ar hylif a cholur iawn i'ch wyneb a dewis siop trin gwallt da. Mae eich wyneb a'ch gwallt i'w gweld drwy'r amser felly mae'n bwysig i chi roi sylw i'ch colur a'ch gwallt. Gallwn newid ein dillad, esgidiau neu fag llaw yn ddyddiol ond mae cadw gwallt yn dwt yn arwydd eich bod yn cymryd gofal o'ch delwedd.

    CWPWRDD DILLAD