Mae sandalau yn ffasiynol iawn i fechgyn yn ogystal â merched ond cofiwch dynnu eich sanau cyn eu gwisgo!
Mae defnydd lliain (linen) yn ffasiynol i ddynion yn yr haf fel trowsusau llac yn ogystal â chrysau lliain.
Lliw...
Bydd yna ystod eang o liwiau ar gael i'r dynion yn ystod y tymhorau nesaf. Peidiwch â bod ofn mentro gwisgo melyn, oren neu las lliw aqua. Mae gwyrdd yn liw amlwg iawn hefyd y tymor hwn ond bydd angen bod yn ofalus gyda'r lliwiau cryf yma gan sicrhau eich bod yn eu cyfuno gyda denim neu liwiau naturiol. Dewiswch tei lliw cryf er mwyn rhoi stamp eich hun ar eich golwg ffasiynol.
Haenau...
Mae gwisgo haenau wastad yn ffordd o ddod a chyffyrddiad o liw i'ch gwisg fel crys-t lliw gwahanol o dan siwmper neu grys. Mae gwisgo haenau mewn lliwiau golau hefyd yn edrych yn dda. Beth am grys-t o dan siwmper a siaced drostynt gyda jîns neu drowsus cyfforddus.