S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Datganiad Awdurdod S4C mewn ymateb i Adroddiad Capital Law

06.12.2023

Heddiw, mae Awdurdod S4C yn cyhoeddi Adroddiad Capital Law ar yr ymarfer canfod ffeithiau a gynhaliwyd am amgylchedd gwaith S4C, a gychwynnwyd yn dilyn pryderon difrifol a godwyd gyda ni gan BECTU ym mis Ebrill 2023. Mae'r dystiolaeth a gasglwyd yn adlewyrchu barn a phrofiadau 95 o unigolion sy'n aelodau presennol neu gyn-aelodau o staff S4C, neu sy'n bartneriaid y mae'r sefydliad yn gweithio gyda nhw.

Mae'r Adroddiad yn portreadu amgylchedd gwaith anodd iawn i lawer yn S4C. Disgrifiodd y cyfranogwyr weithle cythryblus, gyda rhai unigolion o'r tîm o uwch reolwyr yn ymddwyn mewn ffyrdd amhriodol a chyda dulliau gweithredu a oedd yn effeithio'n uniongyrchol ar lesiant staff.

Fel Aelodau Awdurdod S4C, hoffem ymddiheuro yn ddiffuant i'r rhai sydd wedi gorfod goddef ymddygiad annerbyniol yn y gweithle ac am y gofid y mae hyn wedi ei achosi. Hoffem ddiolch i chi am fod yn agored ac yn onest wrth rannu eich profiadau, gan ein galluogi i adnabod y methiannau a amlygwyd yn adroddiad heddiw.

Roedd y cyfranogwyr yn cydnabod bod angen newid yn S4C a bod y Tîm Rheoli yn awyddus i gyflawni gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol y sianel. Ymddengys, fodd bynnag, fod y ffordd y cafodd hyn ei rannu gan rai gyda staff a'r dull o reoli newid ar draws y sefydliad yn ansensitif. Roedd hyn yn aml yn arwain at wrthdaro ac ansicrwydd yn hytrach na chreadigrwydd a thrawsnewid cadarnhaol, cynhwysol. Mae'n amlwg bod llawer o staff S4C wedi bod yn anhapus yn y gwaith ac nad oedd yn ymddangos bod gan ein sefydliad arferion gwaith priodol ar waith i allu ymdrin yn agored ac yn briodol â phryderon staff.

Rydym yn gwerthfawrogi mewnbwn BECTU ar ran aelodau staff, a ofynnodd i ni weithredu unwaith yr oedd yn amlwg na chyflawnwyd cynnydd digonol yn uniongyrchol gydag uwch reolwyr. Edrychwn ymlaen at drafodaethau parhaus gyda chydweithwyr am y cymorth sydd ei angen yn y gweithle.

Mae Awdurdod S4C wedi ymrwymo i sicrhau bod S4C yn fan lle mae ein cydweithwyr yn hapus ac yn ddiogel – lle maen nhw'n teimlo y gallant berfformio ar eu gorau a ffynnu. Rydym yn cydnabod bod angen gwaith sylweddol i roi ffyrdd newydd o weithio ar waith a fydd yn caniatáu i S4C adeiladu dyfodol cadarnhaol gyda gweithlu creadigol a chefnogol. I wneud hynny, mae angen i ni adfer hyder ac ymddiriedaeth ymhlith ein staff, sydd â rhan mor allweddol i'w chwarae yn llwyddiant y sefydliad yn y dyfodol. Yn hanfodol i'r llwyddiant hwnnw mae arweinyddiaeth sy'n canolbwyntio ar gydweithio a chyfathrebu. Fel Awdurdod, gwnaethom benderfynu y byddai hyn yn gofyn am arweinyddiaeth newydd yn S4C, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach cyn bo hir am y broses honno.

Mae llawer o waith i'w wneud i fynd i'r afael yn llawn â'r holl faterion a godwyd gan y dystiolaeth a dderbyniwyd. Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr, gan gynnwys y Timau Rheoli a Thrawsnewid a'r Fforwm Staff a sefydlwyd yn ddiweddar, i annog trafodaeth agored a rhannu syniadau ar ffyrdd gwell o weithio.

Mae'r tîm arweinyddiaeth dros dro eisoes wedi gwneud newidiadau cadarnhaol i alluogi cyfathrebu gwell a mwy agored o fewn y sefydliad ac rydym yn ddiolchgar iddynt am eu gwaith ar yr adeg hon. Byddant yn parhau i sicrhau bod gennym gefnogaeth mewn lle i staff dros yr wythnosau nesaf.

Rydym wedi bod yn sensitif i wrthdaro buddiannau posibl ar gyfer y Cadeirydd. Adolygwyd y materion hyn gan Aelodau'r Awdurdod, yn annibynnol ar y Cadeirydd, a gwnaethom ymdrin â hwy yn unol â hynny. Cytunwyd nad oeddent yn teilyngu unrhyw gamau pellach ac na fyddent yn atal y Cadeirydd rhag cymryd rhan yn yr adolygiad parhaus. Mae pob penderfyniad sy'n deillio o'r broses hon wedi bod yn unfrydol.

Rydym wedi ymdrechu i roi lles staff S4C wrth galon ein penderfyniadau drwy gydol y broses hon. Mae wedi bod yn fater cymhleth ac anodd ei lywio gyda phenderfyniadau anodd yn seiliedig ar faterion cyfreithiol cymhleth. Cymerwyd gofal i gyfyngu ar ddatganiadau cyhoeddus a allai arwain at wrthdaro pellach, a bydd angen inni barhau i ystyried yn ofalus pa wybodaeth y gellir ei rhannu wrth ymateb i gwestiynau pellach. Byddwn, wrth gwrs, yn darparu cymaint o wybodaeth â phosibl am y broses fel rhan o graffu parhaus Awdurdod S4C. Rydym wedi rhannu'r adroddiad hwn ag Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at graffu seneddol maes o law.

Yn y cyfamser, hoffem ddiolch i'n cydweithwyr a'n partneriaid am eu cefnogaeth barhaus i S4C. Edrychwn ymlaen at barhau i chwarae rhan hanfodol wrth gomisiynu cynnwys arloesol, hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'i diwylliant a thyfu cynulleidfaoedd ar gyfer cynnwys sydd wedi'i wneud yng Nghymru.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?