S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Cynllun Gweithredu S4C

29.02.2024

Bu'r ddwy flynedd ddiwethaf yn anodd i lawer o bobl sydd yn gysylltiedig ag S4C, ac yn 2023 fe gomisiynodd aelodau anweithredol Bwrdd S4C gwmni Capital Law i ymgymryd â phroses canfod ffeithiau annibynnol i ddiwylliant ac awyrgylch gwaith S4C mewn ymateb i bryderon difrifol a godwyd gan undeb BECTU. Yn dilyn hyn, gwnaethpwyd penderfyniadau dyrys gan yr aelodau anweithredol mewn ymateb i'r dystiolaeth a gyflwynwyd.

Mae Adroddiad Capital Law yn amlygu nifer o faterion difrifol, ac mae rhai o'r rhain yn mynnu sylw o hyd.

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod S4C yn fan lle mae ein cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu cefnogi a'u cymell i berfformio ar eu gorau. Rydym yn dra ymwybodol o'r angen am waith sylweddol i adfer ymddiriedaeth yn S4C fel sefydliad ymhlith ein staff a'n rhanddeiliaid yn y sector creadigol.

Mae ein rhaglen waith wedi ei datblygu drwy ymgynghori â rhanddeiliaid, gan gynnwys aelodau staff, ac undeb BECTU. Mae'n seiliedig ar bedair thema: arweinyddiaeth, diwylliant, polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol, a llywodraethiant. Rydym yn amlinellu manylion pellach ar bob thema isod.

Y Bwrdd Unedol fydd â'r cyfrifoldeb pennaf dros y Cynllun Gweithredu, gydag eitem sefydlog ym mhob cyfarfod Bwrdd i adrodd ar gynnydd yn erbyn camau gweithredu unigol. Bydd cynnydd ar y Cynllun Gweithredu hefyd yn cael ei rannu gyda'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon fel rhan o drefniadau'r cyfarfodydd chwarterol sydd eisoes yn bod.

Bydd effeithiolrwydd y camau a gymerir fel rhan o'r Cynllun Gweithredu yn cael ei ystyried yng nghyd-destun amrywiol ddulliau adborth, gan gynnwys: arolygon pwls staff S4C, adborth a gesglir trwy gyfarfodydd chwarterol y Fforwm Staff (a rennir gyda'r Tîm Rheoli a'r Bwrdd), a chyfarfodydd blynyddol rhwng BECTU a'r Bwrdd.

Arweinyddiaeth

Rydym yn ymdrechu i adfer ymddiriedaeth ymhlith ein staff, sydd yn chwarae rhan hanfodol yn nyfodol a llwyddiant S4C. Mae arweinyddiaeth wedi'i seilio ar uniondeb, atebolrwydd, cydweithredu a chyfathrebu agored yn allweddol er mwyn adeiladu dyfodol cadarnhaol.

Mae'r Bwrdd Unedol wedi ymrwymo i benodi Prif Weithredwr parhaol newydd cyn gynted ag yn ymarferol bosibl a all helpu i adfer S4C uchelgeisiol gyda ffocws o'r newydd ar gydweithio a lles ein cydweithwyr. Byddant yn gyfrifol ac yn atebol i'r Bwrdd am gyflawni ein strategaeth a gosod y sylfeini ar gyfer llwyddiant S4C i'r dyfodol.

Er mwyn sicrhau cynnydd parhaus yn y tymor byr, mae'r Bwrdd yn gweithio tuag at benodi Prif Weithredwr Dros Dro. Bydd rhagor o wybodaeth am y penodiad hwn maes o law.

Rydym hefyd yn disgwyl cyhoeddiad yn fuan ynghylch Cadeirydd dros dro, a fydd yn cychwyn yn y rôl honno pan ddaw tymor y Cadeirydd presennol i ben ar 31 Mawrth 2024. Bydd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cyhoeddi proses agored i benodi Cadeirydd parhaol newydd i S4C yn gydnaws â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

Diwylliant

Mae'n rhaid inni sicrhau bod staff S4C yn teimlo'n gwbl hyderus y delir ag unrhyw bryderon a godir ganddynt, ac un o'n blaenoriaethau wrth symud ymlaen yw hyrwyddo diwylliant o gyfathrebu agored i'r perwyl hwnnw.

Gan weithio'n agos gyda Thîm Rheoli S4C, bydd rhaglen yn cael ei gweithredu i sicrhau newid diwylliannol cadarnhaol lle bynnag bo'r angen o fewn ein sefydliad.

Byddwn yn adolygu pwrpas a gwerthoedd S4C, gyda mewnbwn gan staff S4C ar bob lefel o fewn y sefydliad. Byddwn hefyd yn ystyried sut rydym yn cyfathrebu ein prif amcanion i alluogi dealltwriaeth well o'n strategaeth. Diben hyn yw sicrhau bod staff yn teimlo perchnogaeth o werthoedd y sefydliad, yn deall ein strategaeth gorfforaethol a'u rôl yn ei chyflawni.

Bydd cynllun Cyfathrebu Mewnol newydd yn cael ei ddatblygu i wella llif gwybodaeth, y berthynas rhwng gwahanol dimoedd, ac i gryfhau lleisiau ein cydweithwyr ar draws pob lefel o'r sefydliad.

Rydym yn bwriadu gweithredu rhaglen hyfforddi ar gyfer rheolwyr ar draws y sefydliad a fydd yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth, rheoli effeithiol, a rheoli newid mewn modd cadarnhaol. Bydd pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant allanol a fydd yn canolbwyntio ar adeiladu gwytnwch a delio â newid.

Bydd y Tîm Rheoli yn atebol i'r Bwrdd Unedol am gyflwyno'r rhaglen waith i newid y diwylliant sefydliadol, a bydd dulliau a phrosesau monitro ac adborth rheolaidd yn cael eu rhoi ar waith i ddarparu gwell syniad o forâl staff a llwyddiant y rhaglen hon.

Bydd y Bwrdd Unedol hefyd yn adolygu'r Cod Ymarfer sy'n berthnasol i holl aelodau'r Bwrdd i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r safonau a'r disgwyliadau uchaf, yn ogystal â gwerthoedd S4C.

Polisïau a Gweithdrefnau

Rydym yn glir bod yn rhaid i ddiwylliant sefydliadol cadarnhaol a pholisïau Adnoddau Dynol effeithiol fynd law-yn-llaw.

Rydym yn adolygu ein polisïau Adnoddau Dynol – gan gynnwys ar chwythu'r chwiban, cwynion, a pharch yn y gweithle – er mwyn sicrhau eu bod yn cyfateb ag arferion gorau.

Rydym am i staff deimlo'n ddigon cyfforddus i godi unrhyw bryderon ac yn hyderus y delir â nhw yn briodol. Byddwn yn ymdrechu i ailsefydlu ymddiriedaeth rhwng staff, rheolwyr, a'r adran Adnoddau Dynol, a byddwn yn cynnal adolygiad allanol o swyddogaeth a gweithdrefnau Adnoddau Dynol, er mwyn sicrhau eu bod yn gydnaws ag arferion gorau.

Byddwn yn datblygu polisïau newydd lle bo'r angen, gan gynnwys polisi addas ar sut mae S4C yn ymateb i gwynion yn erbyn aelodau anweithredol y Bwrdd.

Llywodraethiant

Fel rhan o'n hymdrechion i sicrhau bod ein trefniadau llywodraethiant yn cydymffurfio ag arferion gorau, byddwn yn comisiynu adolygiad allanol o effeithiolrwydd llywodraethiant. Rydym yn disgwyl ystyriaeth o drefniadau llywodraethiant mewnol S4C - gan gynnwys y Bwrdd a'i bwyllgorau, y Tîm Rheoli, a grwpiau mewnol eraill sydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau - ac i edrych yn benodol ar atebolrwydd a chyfathrebu priodol rhwng y lefelau llywodraethiant mewnol.

Rydym yn disgwyl i ganlyniad yr adolygiad hwn arwain at ddiwygiadau i'n Rheolau Sefydlog ac felly byddwn hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i feincnodi ein Rheolau Sefydlog, gan eu cymharu ag arferion gorau mewn sefydliadau cyfatebol.

Bydd deddfwriaeth sydd i ddod ar ffurf Bil y Cyfryngau hefyd yn gofyn am ddiwygiadau i'n Rheolau Sefydlog. Er bod Awdurdod S4C wedi bod yn gweithredu fel Bwrdd Unedol Cysgodol ar sail weinyddol ers 2018, rydym yn croesawu'r sicrwydd statudol y bydd darpariaethau'r Bil yn ei chynnig o ran trefniadau llywodraethiant S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?