Cyfnewid
Nesaf: Llanymddyfri - Nos Iau 27ain Ionawr
Mae Cyfnewid yn dod i’ch ardal chi!
Ydach chi’n barod i ddarganfod cartref newydd i ddillad sy’n llenwi’r cwpwrdd ond heb eu gwisgo ers amser maith, hen deganau neu gasgliad o gryno ddisgiau sy’n hel llwch yn yr atig; neu beth am ddodrefn neu nwyddau di-angen sy’n gorwedd yn segur yng nghornel yr ardd neu’r garej?
Os felly, Cyfnewid yw’r lle i chi!
Mae croeso cynnes i chi gysylltu â thîm Cyfnewid unrhyw bryd. Os hoffech chi gymryd rhan yn y gyfres, danfon syniad am rysáit neu holi cwestiwn am y gyfres, e-bostiwch i gysylltu â ni.
Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gydag unrhyw gwmnïau allanol, a fe fydd ond yn cael ei ddefnyddio i gysylltu yn ôl ac ymateb i'ch ymholiad.
Rhodri Ogwen Williams
Mae Cyfnewid yn rhaglen sy'n siwtio Rhodri Ogwen Williams i'r dim. Am flynyddoedd bu'n casglu pob math o eitemau o dros y byd i gyd. Erbyn hyn, mae'r ty wedi mynd yn rhy fach i'w gasgliad ac mae'n gorfod llogi 2 stordy i gadw'r stwff i gyd. Y cam mwyaf synhwyrol iddo fyddai llenwi fan a dod lawr i un o safleoedd Cyfnewid a falle newid pob dim am rywbeth fyddai yn ei ddefnyddio yn hytrach na'i storio. A dyna beth mae'n annog i chi wneud. Os nad ydych chi wedi defnyddio eitem am dri mis a mwy, ac mae'n hel llwch mewn cwpwrdd yn y ty, mae'n amser cyfnewid am rywbeth arall a hynny heb wario ceiniog!
'Dim jymbl sêl yw Cyfnewid', meddai, 'yn hytrach cyfle i chi gyfnewid eitem neu eitemau o'r safon ucha' mewn awyrgylch hwylus iawn.'
Mae Rhodri wrth ei fodd i fod yn rhan o gyfres newydd ar S4C sy'n rhoi'r cyfle iddo gwrdd a phobl yn eu cymuned i gloncan a chyfnewid!
Mari Lovgreen
Dwi wrth fy modd yn cael bod yn rhan o'r rhaglen Cyfnewid. Ers i fi fynd i barti swopio dillad ryw flwyddyn yn ôl, dwi wedi bod yn ffan mawr o'r syniad yma o gyfnewid rywbeth 'da chi wedi ddiflasu arno fo am rywbeth sy'n hen i rywun arall, ond yn newydd a diddorol i chi. Ges i ambell i beth yn y parti, a mwy nag un peth oedd erioed wedi cael ei wisgo o'r blaen! 'One man's trash is another man's treasure' ydi'r dywediad ia?!
Dwi'n edrych ymlaen bob wythnos i weld y pethau anarferol a gwreiddiol sydd yn cael eu cyfnewid – rydan ni wedi cael, darnau ceir, clybiau golff, cadeiriau a darluniau gwreiddiol. Ond yn fwy na dim, dwi'n edrych ymlaen i fwydro a sgwrsio efo'r bobl sy'n Cyfnewid achos dydi hi ddim yn gyfrinach mai siarad ydi un o fy mhrif ddiddordebau. Cofiwch wylio a dewch i Gyfnewid! Welai chi ar y daith.
Mari, x
Mandy Watkins
Yn enedigol o Ynys Môn, fe wnes i radd mewn Busnes a Seicoleg yn y Brifysgol ym Mangor. Yna drwy hap a damwain cefais swydd gyda chwmni Cynllunio Mewnol yng Nghaer, a dechreuodd hyn fy niddordeb yn y maes. Ar ôl blwyddyn fodd bynnag, penderfynais symud yn ôl i Ynys Môn, a chefais swydd gyda Chyngor Cefn Gwlad, lle dwi dal i weithio dau ddiwrnod yr wythnos fel Swyddog Perthnasau Allanol.
Yn y cyfamser rwyf wedi cyflawni diploma mewn cynllunio mewnol, a bellach rwyf wedi sefydlu cwmni cynllunio fy hun, ac yn ei fwynhau yn fawr er iddo fod yn dipyn o waith trio gwneud bob dim!
Rwy'n briod ac mae gennym ddau fab a merch - Huw, Ned ag Elsi. Rwy'n hoffi siopa, chwilota am fargeinion, treulio amser gyda theulu a ffrindiau yn ogystal a chadw'n heini. Dwi byth yn eistedd lawr, ac yn meddwl fod bywyd yn llawer rhy fyr i wneud dim 'da chi ddim yn mwynhau!
Elliw Herbert
Merch o Ben Llyn yn wreiddiol, cefais fy addysgu yn Ysgol Botwnnog ac yna mynd ymlaen i astudio a graddio yng Ngholeg Prifysgol Caer. Bum yn gweithio i wahanol asiantaethau amgylcheddol ac addysgiadol, ond bellach yn gymhorthydd dosbarth yn Ysgol y Graig, Llangefni.
Drwy ddiddordeb mewn ffasiwn a hap a damwain y dechreuais gynghori ffrindiau a chyfoedion ar steil, ffasiwn a sut i weddnewid eu cwpwrdd dillad. Datblygodd hyn ymhellach gan ddechrau busnes bach fel steiliwr/siopwraig personol i bob math o bobl wahanol a diddorol. Fel rhan o'r busnes yma, rwy'n cynnal nosweithiau cyfnewid dillad neu 'swishio', siopa gyda chlientau am wisgoedd newydd ac yn clirio cwpwrdd dillad gyda phobl yn eu cartrefi.
Fy rôl yn bennaf ar raglen Cyfnewid fydd cynghori aelodau o'r cyhoedd ar beth i'w gyfnewid yn yr ardal ddillad. Byddaf yn cynghori ar eitemau fyddai'n gweddu i wahanol bobl yn ogystal a beth na fyddai'n gweddu a rhoi 'tips' ar sut i weddnewid eitemau yn y wardrob.
| Lleoliad | Dyddiad darlledu | Dydd |
|---|---|---|
| Bethel | 20 Ionawr 2011 | Nos Iau, 21:30 |
Llanymddyfri |
27 Ionawr 2011 | Nos Iau, 21:30 |
| Meifod | 10 Chwefror 2011 | Nos Iau, 21:30 |
| Talybont | 17 Chwefror 2011 | Nos Iau, 21:30 |
| Bala | 24 Chwefror 2011 | Nos Iau, 21:45 |
| Caerfyrddin | 3 Mawrth 2011 | Nos Iau, 21:30 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 10 Mawrth 2011 | Nos Iau, 21:30 |
Mae'n bosib cyfnewid bron i unrywbeth
Dillad, ffilmiau, llenni, llestri hen a newydd, esgidiau, celfi, gemau gwisgo, gemau bwrdd neu gemau cyfrifiadur... gallwch hyd yn oed gyfnewid gwasanaethau e.e. torri gwallt neu baentio stafell!
Rheolau digwyddiad Cyfnewid:
- Rhaid dod ag o leiaf un eitem, ond nid mwy na phump eitem unigol.
- Byddwch yn derbyn Rhif Personol ac un Cerdyn Cyfnewid am bob eitem.
- Fe fydd eich eitemau yn cael eu harddangos ar fyrddau ac ar reiliau pwrpasol.
- Y person cyntaf i drosglwyddo cerdyn am eitem sy'n cael ei gymryd.
- Ni dderbynir: dillad isaf, clustdlysau, colur, nwyddau trydanol, bwyd, anifeiliaid, alcohol, nwyddau miniog (e.e. cyllyll), arfau, unrhyw beth arall sy’n anweddus a/neu’n anghyfreithlon.
- Telerau ac amodau cyflawn.
Ryseitiau o'r ail gyfres i'w lawrlwytho
- Salad cyw iâr, watercress gydag almond a feta - addasiad Rhodri
- Cawl Kale a Chorizo
- Cacen bysgod Cilgerran - addasiad Rhodri
- Cacen bysgod Cilgerran
- Spaghetti Bolognese - addasiad Rhodri
- Spaghetti Bolognese Pontyberem
- Bara Brith Wrecsam
- Bara Brith - addasiad Rhodri
