Bob blwyddyn, mae tipyn o bobl yn mynd ar goll am sawl rheswm gwahanol. Mae dros 70,000 o bobl ifanc yn rhedeg i ffwrdd o gartref neu o ofal, er enghraifft, er bod y rhan fwyaf yn dychwelyd yn saff. Ond nid jest pobl ifanc sy'n mynd ar goll.
Os wyt ti yn teimlo fod gen ti nunlle i droi, ac yn meddwl rhedeg i ffwrdd, meddylia am siarad gyda rhai o'r gwasanaethau yma gyntaf: maent am ddim, yn gyfrinachol ac efallai gallent helpu, beth bynnag sy'n digwydd yn dy fywyd. Yn yr un modd, ceir wybodaeth yma i'r sawl sy'n cael eu gadael ar ôl.
Elusen i'ch cefnogi os mae rhywun agos wedi mynd ar goll. Help, cyngor a chefnogaeth ymarferol.
Os ydych dan 18 ac yn poeni am unrhyw beth, gallwch gael help unrhyw awr o'r dydd neu nos drwy ffonio Childline Cymru am ddim, neu drwy fynd i'w gwefan am fwy o wybodaeth. Mae yna oedolion yna i'ch helpu chi sortio unrhyw broblem yn eich bywyd. Os ydych fethu clywed yn dda iawn gallwch ffonio drwy ffôn testun ar y rhif sy'n cael ei roi yma.
Mae'r NSPCC yn sefyll dros hawliau plant trwy wrando ar eu anghenion, eu helpu a'u gwneud yn saff pan mae angen.
Llinell gyfrinachol am ddim i pwy bynnag sydd o dan 17 ac wedi rhedeg i ffwrdd o gartref neu o ofal.
Sianel ar y we sy'n llawn gwybodaeth defnyddiol i bobl rhwng 11-25 oed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y newyddion diweddaraf, eich iechyd, addysg a phob math o bynciau eraill pwysg wrth i chi dyfu.
Os ydych o dan 25 gallwch gael cefnogaeth emosiynol gyfrinachol yn rhad ac am ddim o wasanaeth Get Connected.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales