Mae canser yn rhywbeth mae'r rhan fwyaf ohonom yn mynd i ddod ar draws ar ryw bwynt yn ein bywydau. Bob blwyddyn mae dros chwarter miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn canfod bod rhyw fath o ganser ganddynt. Mae canser y fron, yr ysgyfaint, y perfedd neu'r brostad yn cyfri am dros hanner o rain, er bod oddeutu 200 gwahanol fath. Mwy o wybodaeth am fathau penodol o ganser yn ein herthyglau arbenigol.
Fel arall, mae manylion y mudiadau a'r llinellau cymorth canlynol i'ch helpu os ydych chi neu rywun agos i chi angen cefnogaeth oherwydd effaith canser ar eich bywyd.
Mae Tenovus yn cynnig gwasanaeth dwyieithog dros y ffôn a chwnsela i'r sawl sy'n byw gyda chanser, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gwybodaeth ar sut i osgoi canser, profion, triniaeth, gofal a gwasanaethau cefnogi.
Mae Macmillan Cancer Support yn brwydro i wella ansawdd bywyd y sawl sy'n byw gyda chanser. Gwybodaeth glir ar y wefan, yn cynnwys arbenigedd Cancer BACKUP, sydd wedi uno a Macmillan yn ddiweddar. Cefnogaeth hefyd trwy'r llinell gymorth, yn ogystal â'r 2000 o nyrsys hyfforddedig sy'n arbenigo mewn canser.
Cancer Research UK yw un o'r mudiadau ymchwil gwirfoddol mwyaf yn y byd. Ceir manylion am y driniaeth ddiweddaraf, llinellau cymorth a gwasanaethau cynnal ar eu gwefan.
Mae CancerHelp yn wasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr i'r sawl sy'n byw gyda chanser, ac yn rhan o Cancer Research UK.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
Gwybodaeth am ddarpar dreialon triniaethau canser ac astudiaethau eraill sydd wedi’u cynllunio gan gynghorau ymchwil y llywodraeth, grwpiau ymchwil academaidd ac elusennau canser yng Nghymru.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales