Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Dibyniaeth

Dibyniaeth yw pan fod rhywun gydag angen corfforol neu seicolegol wedi ei ffocysu ar gyflwr neu gyffur penodol. Yn aml, gall olygu ymddygiad gorfodaethyrrol, gyda'r person yn ymddwyn mewn ffordd na allent eu rheoli, er ei fod yn achosi niwed iddynt yn y pendraw.

Gall dibyniaeth dod mewn sawl ffurf. Y rhai mwyaf cyffredin yn ein cymdeithas, y rhai sy'n gallu achosi'r mwyaf o niwed, yw'r rhai sy'n golygu'r defnydd o alcohol, cyffuriau anghyfreithlon neu gyfreithlon, neu ysmygu. Ceir wybodaeth yma a all helpu pobl sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y materion yma, yn cynnwys teuluoedd a gofalwyr.

Cysylltiadau defnyddiol

  • Talk to Frank

    Er bod cymryd cyffuriau'n anghyfreithlon, tydi siarad amdanyn nhw ddim. Ceir cyngor da gan Talk to Frank am unrhyw gyffur, trwy e-bost neu trwy ffonio'r llinell gymorth. Llawer o wybodaeth ar y wefan gan gynnwys manylion help lleol.

  • DAN 24/7

    Cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael mwy o wybodaeth ynglýn â chyffuriau ac alcohol. Gwasanaeth dwyieithog.

  • TheSite.org

    Mae TheSite.org yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog sy'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.

  • Al-Anon

    Mae Al-Anon yn cynnig dealltwriaeth a chefnogaeth i deuluoedd neu ffrindiau pobl sydd gyda phroblem alcohol, os maent dal i yfed neu ddim. Mae yna grwpiau a chyfarfodydd ar draws Cymru, a fedrwch gael hyd i fanylion ar y gwefan. Maent hefyd yn rhedeg gwasanaeth wedi ei anelu at bobl yn eu harddegau, Alateen, i'w helpu dygymod gydag aelodau o'r teulu sydd efallai'n yfed gormod.

  • Addaction

    Addaction yw un o'r asiantaethau triniaeth cyffuriau ac alcohol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Maent yn gallu cynnig help a chyngor i'r sawl sydd gyda phroblemau cyffuriau neu alcohol (neu'r ddau), eu teuluoedd, ffrindiau neu ofalwyr.

  • Llinell Gymorth Ysmygu'r NHS

    Cyngor dros y ffôn ac ar y gwefan am y ffyrdd gorau i roi'r gorau i smygu.