Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Ffliw moch

Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos fod ffliw moch wedi sefydlu ei hun yn y Deyrnas Unedig, ac yn debygol o effeithio bywydau rhan fawr o'r boblogaeth, o bosib am flynyddoedd i ddod. Ar hyn o bryd, mae'r sawl sydd wedi dal yr haint yn dioddef symptomau nodweddiadol o ffliw arferol: tymheredd uwch, peswch, tisian neu golli anadl; cur pen, dolur gwddf/llwnc tost, teimlo'n flinedig neu gyda phoen yn eich cyhyrau. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr o hyn.

Mae'n ymddangos fod rhai grwpiau o bobl yn fwy tueddol o ddal yr haint, ac i gael cymhlethdodau - ceir wybodaeth ychwanegol iddyn nhw ar y chwith. Beth sy'n bwysig ar hyn o bryd, os yn bosib, yw i bawb ymdrechu i beidio lledaenu'r haint.

Bellach ceir canllawiau penodol ar beth i wneud os ydych chi'n amau eich bod rhywbeth o'i le. Ceir mwy o wybodaeth trwy'r dolenni a'r rhifau isod, yn enwedig 0800 1 513 513 a 0845 4647 ond y prif bethau i gofio yw:

  • Os mae'r sumptomau gennych, arhoswch gartref
  • Ceir mwy o fanylion am y sumptomau trwy fynd i'r gwefannau a ffonio'r rhifau isod, neu drwy ffonio'ch meddyg teulu - defnyddiwch nhw
  • Os ydych chi'n amau fod o gennych, peidiwch â mynd i'r feddygfa neu uned damweiniau brys lleol heb ffonio
  • Defnyddiwch hancesi papur glan a'u taflu wrth disian
  • Golchwch eich dwylo'n drylwyr ac yn aml gyda dŵr poeth a sebon

Cysylltiadau defnyddiol

  • Llinell Wybodaeth am Ffliw Moch

    Y prif wasanaeth er mwyn cael y wybodaeth diweddaraf am ffliw y moch.

    • Rhif ffôn: 0800 1 513 513
  • Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

  • Patient.co.uk

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.