Mae’r wybodaeth yma os ydych yn teimlo’n isel ac angen help neu clust i wrando. Hefyd, ceir cymorth i deuluoedd, gofalwyr, ffrindiau ac eraill os yn adnabod rhywun sy’n teimlo fel hyn.
Anelir tipyn o'r wybodaeth at bobl ifanc yn enwedig, ac mae ambell i wefan gydag adrannau addas i wahanol anghenion pobl mewn sefyllfa o'r fath. Rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth i’r sawl sydd wedi colli rhywun drwy hunanladdiad.
Cefnogaeth emosiynol gyfrinachol dros y ffôn ar gael gan y Samariaid - unrhyw bryd, dydd neu nos.
Mae Mind Cymru gyda 20 grŵp lleol ar draws Cymru, ac yn gallu rhoi gwybodaeth safonol am wasanaethau lleol ac am unrhyw help sydd ar gael ynglyn ag iechyd meddwl yn eich ardal. Ewch i'w gwefan am wybodaeth glir a chyfredol am unrhyw agwedd o iechyd meddwl neu ffoniwch y MindInfoLine.
Os ydych yn ddyn ifanc, gellir cael help a chyngor os ydych chi'n teimlo'n isel drwy fynd i wefan C.A.L.M. neu drwy gael gair dros y ffôn.
Mae'r gwefan yma'n rhoi gwybodaeth am ystod o wasanaethau lleol ar gael i chi, yn cynnwys rhai cwnsela.
Gwybodaeth da dwyieithog gan Papyrus, i'r sawl sy'n teimlo'n isel iawn.
Os yn fyfyriwr, gallwch gael help o mwy nag un ffynhonnell. Mae gwasanaeth Nightline yn glust i wrando ar bob campws, a fedrwch gael manylion y rhif trwy'ch undeb, neu drwy edrych am eich gwasanaeth lleol ar y gwefan.
Os ydych chi'n edrych am therapi penodol i'ch cyflwr, neu angen help mewn perthynas, fedrwch gael gwybodaeth am eich therapydd cymwysedig lleol, yn ogystal â mathau o therapi ar gael, drwy fynd i wefan BACP.
Gwybodaeth ddefnyddiol a help ar gael os yn fyfyriwr ac yn teimlo'n isel, neu'n poeni am rywun arall sy'n teimlo hynny.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales