Cyflwr o fewn teulu llid y cymalau yw Spondylitis Ymasiol, un sydd fel arfer yn effeithio bywydau dynion ifanc, er mae hefyd i'w ganfod ymysg merched a phobl hÅ·n. Credir fod cyswllt enynnol cryf iddo. Gall achosi llid poenus sy'n codi o bryd i'w gilydd yn y cymalau, yn aml yng ngwaelod y cefn, er nid o hyd yn y rhan yma o'r corff. Yn y pendraw, gall hefyd achosi i'r esgyrn uno yn y rhan o'r corff sydd wedi ei effeithio.
Amcangyfrifir fod tua 5,000 o bobl yn byw gyda'r cyflwr yma yng Nghymru, ac er nad oes yna iachâd i'r cyflwr ar gael ar y funud, mae'r rhan fwyaf yn gallu byw bywyd cyffredin gyda chefnogaeth, triniaeth am y boen ac ymarfer corff.
Gall y mudiadau ar y tudalen yma rhoi mwy o wybodaeth a chefnogaeth, ynghyd a help eich doctor a'ch ffisiotherapydd, os ydych yn byw gyda'r cyflwr.
Elusen sy'n gweithio ar ran pobl sy'n byw gyda Spondylitis Ymasiol, a'u teuloedd. Gwefan cynhwysfawr iawn sy'n rhoi gwybodaeth a chefnogaeth gyda bob agwedd o'r cyflwr, yn cynnwys gwasanaethau lleol i chi a all helpu.
Gwybodaeth a help ymarferol gyda ceisio hunan-reoli'r cyflwr, mae'r mudiad yma hefyd yn cynnig cefnogaeth drwy sawl cangen ar draws Cymru.
Newyddion, ymgyrchoedd a'r ymchwil diweddaraf am y cyflwr.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales