Mae dipyn o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn mwynhau diod achlysurol, ond weithiau mae rhai yn yfed mewn ffordd sy’n niweidiol. Gall hyn gael effaith nid yn unig ar iechyd a lles unigolion ond ar deuluoedd a chymunedau hefyd.
Mae’r dolenni yma os ydych chi am wybod mwy am alcohol a’i effeithiau neu os ydych yn poeni am eich yfed eich hunain neu yfed rhywun arall. Rydym hefyd wedi cynnwys prawf yfed syml i chi allu asesu eich yfed eich hun.
Cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael mwy o wybodaeth ynglýn â chyffuriau ac alcohol. Gwasanaeth dwyieithog.
Mae Drinkline yn cynnig cyngor cyfrinachol, rhad ac am ddim i unrhyw un sy'n poeni am yfed nhw'i hunain neu rywun arall.
Mae Al-Anon yn cynnig dealltwriaeth a chefnogaeth i deuluoedd neu ffrindiau pobl sydd gyda phroblem alcohol, os maent dal i yfed neu ddim. Mae yna grwpiau a chyfarfodydd ar draws Cymru, a fedrwch gael hyd i fanylion ar y gwefan. Maent hefyd yn rhedeg gwasanaeth wedi ei anelu at bobl yn eu harddegau, Alateen, i'w helpu dygymod gydag aelodau o'r teulu sydd efallai'n yfed gormod.
Prawf i'ch helpu penderfynu os ydych yn yfed gormod, ac sy'n awgrymu beth fedrwch wneud am hynny.
Mae Prism yn brosiect yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sy'n cynnig cymorth a chyngor i'r sawl sydd gyda phroblemau oherwydd defnydd eu hunain neu ddefnydd rhywun arall o alcohol neu gyffuriau. Mae ganddynt wasanaethau ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Asiantaeth yng Ngogledd Cymru sy'n ceisio gwneud newidiadau positif i fywydau pobl sydd wedi eu heffeithio gan gyffuriau ac alcohol.
Mae WGCADA yn cynnig gwasanaethau i'r sawl sydd gyda phroblemau gydag alcohol neu gyffuriau yn ardal Abertawe, Pen-y-bont a Chastell-nedd Port Talbot. Am fwy o fanylion a lleoliadau'r gwasanaethau, ewch i'r gwefan.
Mae Pen yr Enfys yn gweithio gyda phobl sydd â phroblemau alcohol a chyffuriau yng Nghaerdydd.
Gwasanaethau alcohol a chyffuriau yng Nghymoedd De Cymru, yn cynnwys Merthyr Tudful a Chaerffili.
Cymorth a chefnogaeth gyfrinachol gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol yn ardal Pen-y-bont.
Gwasanaeth cyfrinachol, rhad ac am ddim yn ardal Abertawe sy'n ceisio lleihau'r difrod a achosir i unigolion a theuluoedd gan gyffuriau ac alcohol.
Mae Prosiect Alcohol Gwent yn cynnig gwybodaeth a chwnsela yn rhad ac am ddim i bobl dros 16 yn ardal Gwent, os maent yn poeni am yfed eu hunain, yfed ffrind neu rywun yn y teulu.
Addaction yw un o'r asiantaethau triniaeth cyffuriau ac alcohol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Maent yn gallu cynnig help a chyngor i'r sawl sydd gyda phroblemau cyffuriau neu alcohol (neu'r ddau), eu teuluoedd, ffrindiau neu ofalwyr.
Mae Alcoholics Anonymous i'r sawl sy'n cydnabod fod ganddynt broblem gydag alcohol ac sydd wedi penderfynu gwella trwy stopio yfed. Maent yn cynnig grwpiau hunan-gymorth cefnogol ar draws y Deyrnas Unedig, yn cynnwys yng Nghymru.
Mae'r gwefan yma'n cynnig gwybodaeth safonol sy'n edrych ar agweddau gwahanol o alcoholiaeth, yn ogystal â chysylltu i ffynonellau help eraill.
Mae TheSite.org yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog sy'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.
Mae Adfam yn help i deuluoedd a ffrindiau pobl sy'n defnyddio cyffuriau. Maent yn cynnig gwybodaeth a manylion am y cymorth sydd ar gael yn lleol. Cymorth hefyd drwy gynnig cwnsela i'r sawl sy'n pryderu am ddefnydd eu hunain o gyffuriau, pryderon teuluol neu unrhyw agwedd arall o gymryd cyffuriau.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales