Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Erthyglau diweddar

Clefyd Alzheimers a dementia

Mae Alzheimers yn glefyd sydd fel arfer yn effeithio pobl hyn, ac oherwydd fod y boblogaeth yn heneiddio, mae'r clefyd yn un fwy cyffredin. Beth sy'n nodweddiadol o'r cyflwr yw fod y galluoedd meddyliol yn gwaethygu, yn enwedig y gallu i resymu a chofio. Hwn yw'r cyflwr sy'n cael ei alw'n ddementia.

Yn anffodus, does dim ffordd o wella'r clefyd ar gael ar y funud, ond mae'r mudiadau sy'n cael eu rhestru yma yn gallu cynnig cefnogaeth i'r sawl sy'n byw gyda'r cyflwr, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

Cysylltiadau defnyddiol

    Cymdeithas Alzheimers

    Cymdeithas sydd yn gallu rhoi cefnogaeth a chymorth i'r sawl sy'n byw gydag Alzheimers, eu teuluoedd neu ofalwyr. Mae yna canghenni i'w cael yng Ngogledd a De Cymru.

    Age Concern Cymru

    Mae Age Concern Cymru yn cynnig cefnogaeth a chymorth ymarferol ar lefel leol trwy Gymru gyfan, yn ogystal â lobïo ac ymchwilio ar ran pobl hyn. Maent wedi uno gyda Help the Aged yng Nghymru yn ddiweddar. Mwy o fanylion am weithgareddau lleol o'r gwefan neu drwy ffonio'r brif swyddfa.

    Help the Aged

    Mae Help the Aged ac Age Concern Cymru wedi uno. Mae'r mudiad yma'n gallu rhoi cyngor a chymorth ar ystod o bynciau sy'n effeithio pobl hyn yng Nghymru, yn cynnwys iechyd, diogelwch, tai a budd-daliadau. Maent hefyd yn rhedeg ymchwil o'r enw Disconnected Mind, sy'n edrych ar gyflwr dementia.

    • Rhif ffôn: 0808 800 6565 (Llun-Gwener, 9am-4pm)
    • Ffôn testun: 0800 26 96 26
    • Ymweld â'r wefan

    Croesffyrdd Cymru

    Mae Croesffyrdd Cymru'n wasanaeth sy'n gofalu am y gofalwyr - maent yn cynnig cymorth ymarferol i ofalwyr ar draws Cymru drwy roi seibiant iddynt. Mwy o wybodaeth yn cynnwys manylion eich cynllun lleol ar y gwefan. 

    Mind Cymru

    Mae Mind Cymru gyda 20 grŵp lleol ar draws Cymru, ac yn gallu rhoi gwybodaeth safonol am wasanaethau lleol ac am unrhyw help sydd ar gael ynglyn ag iechyd meddwl yn eich ardal. Ewch i'w gwefan am wybodaeth glir a chyfredol am unrhyw agwedd o iechyd meddwl neu ffoniwch y MindInfoLine.

    Patient.co.uk

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.