Cefnogaeth a help i gael yma i ddarpar rieni sydd dipyn bach yn hyn.
Gall beichiogi'n hwyrach mewn bywyd olygu ambell i gymhlethdod, ac fel arfer mae'n syniad da cael ychydig o brofion ychwanegol i wneud yn siŵr fod y babi'n iach. Mae'r profion yma'n ychwanegol i'r sgan arferol. Un o'r rhai mwyaf cyffredin yw'r prawf amnio, sy'n gallu codi'r lefel o risg i'r babi - ond nid hwn yw'r unig brawf sydd ar gael.
Mae'r profion yma i geisio darganfod unrhyw abnormaledd yn y babi, fel Syndrom Down neu Syndrom Edward, sydd tipyn mwy prin. Ceir mwy o wybodaeth am rhain o fudiadau S.O.F.T. neu Cyswllt Teulu Cymru isod.
Elusen genedlaethol yw ARC yn cynnig cyngor a chymorth wrth i bobl benderfynu ar ba brofion i’w cymeryd pan yn feichiog - eu nod yw rhoi’r wybodaeth gorau i ddarpar rieni am y ffordd ymlaen.
Gwefan cynhwysfawr sy’n cynnig llawer o wybodaeth am y technegau newydd o brofi iechyd y plentyn unwaith yn feichiog.
Gwefan gyda gwybodaeth da am feichiogrwydd, yn cynnwys problemau beichiogi pan yn hyn.
Cymdeithas sydd yna i helpu pobl sy’n cael problemau cael plant, mae nhw hefyd gyda gwybodaeth a chyngor i bobl dros 35 sy’n ceisio cael plant.
Gwybodaeth a chyngor cyffredinol ar sut i feichiogi.
Os mae Syndrom Edwards yn effeithio’ch babi, sef anhwylder cromosomaidd, gallwch gael cefnogaeth trwy'r mudiad yma.
Mae'r mudiad yma'n cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i deuluoedd sydd gyda phlant anabl.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales