Os ydych chi'n wynebu bod yn feichiog yn annisgwyl, mae yna lawer o fudiadau a all roi cyngor di-duedd i chi am y ffordd ymlaen. Mae'n bwysig cysidro'ch holl opsiynnau mewn sefyllfa fel hyn, fel eich bod yn gallu dod i benderfyniad sy'n gweddu chi a'ch sefyllfa.
Cynigir help gan y mudiadau a gwefannau yma, yn aml gydag esiamplau o brofiadau eraill sydd wedi bod yn yr un sefyllfa.
Un o’r prif gymdeithasau sy’n edrych ar ôl bob agwedd o fabwysiadu a maethu plant, gan sicrhau fod safonau gofal uchel a’r hyfforddiant addas yn eu lle i bawb sy’n rhan o’r broses. Mae ganddynt ddwy swyddfa yng Nghymru, sef yng Nghaerdydd a Rhyl.
Mae'r British Pregnancy Advisory Service yn rhoi cyngor ar ffyrdd o atal cenhedlu a hefyd yn cynnig gwasanaeth erthylu trwy'r DU. Gwybodaeth glir am yr holl opsiynnau ar y gwefan neu drwy siarad gydag un o'r cynghorwyr profiadol dros y ffôn.
Mae Care Confidential yn agored i unrhyw un sy'n feichiog yn annisgwyl ac angen cymorth neu gefnogaeth, yn cynnwys ar ôl erthyliad. Gwasanaeth cwnsela ar gael dros y ffôn neu arlein hefyd.
Mae'r Family Planning Association yn cynnig cyngor ar atal cenhedlu, heintiau rhywiol a sut i gynllunio am fabi, ond hefyd beth i wneud os ydych yn beichiogi'n annisgwyl. Gwybodaeth drylwyr am bopeth ar gael drwy'r wefan a'r llinell gymorth, yn ogystal â lleoliad eich clinig lleol.
Elusen o blaid bywyd sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i'r sawl sy'n dewis cario mlaen gyda beichiogrwydd annisgwyl.
Cyngor a chefnogaeth gyfrinachol ar iechyd rhywiol ac os ydych yn feichiog yn annisgwyl.
Er bod dim clinigau Brook ar gael yng Nghymru, mae'r gwefan llawn gwybodaeth ddefnyddiol ar atal cenhedlu a heintiau rhywiol. Mae'r gwasanaeth wedi ei anelu at bobl ifanc ac at y sawl sydd efallai'n cysidro opsiynnau os yn feichiog yn annisgwyl.
Mae TheSite.org yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog sy'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales