Neidio at y cynnwys

S4C

Canser y brostad

Canser y brostad yw'r canser mwyaf cyffredin i ddynion yn y Deyrnas Unedig, yn gyfrifol am dros chwarter o bob canser. Yn anffodus, mae'n ganser sy'n achosi'r ffigyrau marwolaeth uchaf ar ôl canser yr ysgyfaint.

Y ffactor pwysicaf yn y math yma o ganser yw eich oedran, gyda'r posibiliad o'i ddatblygu yn codi ar ôl cyrraedd 50. Y newyddion da erbyn hyn yw bod tua 7 allan o bob 10 dyn sy'n cael diagnosis o'r math yma o ganser yn byw yn bell tu hwnt i bum mlynedd. Mae'n ganser yn un sy'n tueddu i ddatblygu'n araf.

Ceir gwybodaeth yma am fudiadau a all rhoi mwy o wybodaeth a chefnogaeth os mae canser y prostad yn rhywbeth sy'n eich effeithio chi neu rywun agos i chi.

Cysylltiadau defnyddiol