Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Ffibrosis codennog

Ffibrosis codennog yw un o'r anhwylderau genetic mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig, yn effeithio ar fywydau rhai miloedd o fabanod, plant a phobl ifanc. Un o'r prif symptomau yw bod yr ysgyfaint, pancreas, perfeddion ac organau eraill yn llenwi gyda mwcws gludiog, sy'n creu problemau yn nhermau gallu anadlu'n iawn neu fagu pwysau iach, ymysg cymhlethdodau eraill.

Mae pobl sy'n byw gyda'r cyflwr anwelladwy yma angen dipyn o gefnogaeth. Gallasent hefyd angen trawsblaniad o'r galon, ysgyfaint, pancreas a'r iau os mae'r organau wedi eu niweidio gormod. Fel arall, defnyddir ffisiotherapi a chyffuriau i geisio lleddfu'r symptomau. Mae therapïau genetic newydd wrthi'n cael eu datblygu ar y funud. 

Cysylltiadau defnyddiol

    Ymddiriedolaeth Ffibrosis Codennog

    Un o'r prif fudiadau yn y Deyrnas Unedig i helpu'r sawl sy'n byw gyda ffibrosis codennog , eu teuluoedd a'u gofalwyr. Maent yn cynnig bob math o help a chyngor ymarferol am y cyflwr, trwy'r gwefan a'r llinell gymorth. Maent hefyd gydag arbenigwyr cynghorol fel bod pobl yn gallu cael y gofal gorau phosib yn eu hardal nhw.

    Sefydliad Ffibrosis Codennog

    Gwefan gynhwysfawr sefydliad Americanaidd sy'n rhoi'r newyddion diweddaraf a gwybodaeth gefnogol am y cyflwr.

    Cynhalwyr Cymru

    Mae'r mudiad yma'n cynnig cyngor a chefnogaeth i ofalwyr yng Nghymru, gan ymgyrchu ar ran eu hawliau hefyd. Cysylltwch â nhw am unrhyw agwedd o edrych ar ôl eraill, o ble i gael help ariannol i'ch gwasanaethau lleol.

    • Rhif ffôn: 0808 808 7777 (10am-12pm & 2pm-4pm, Dydd Mercher & Dydd Iau)
    • Ymweld â'r wefan

    Cyswllt Teulu Cymru

    Mae'r mudiad yma'n cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i deuluoedd sydd gyda phlant anabl.

    • Rhif ffôn: 0808 808 3555 (10am-4pm, Llun-Gwener)
    • Ffôn testun: 0808 808 3556
    • Ymweld â'r wefan

    Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

    Patient.co.uk

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.