Neidio at y cynnwys

S4C

Iselder ol-enedigol

Does dim amheuaeth fod cael babi yn amser emosiynol i bawb, ac mae'n weddol gyffredin i famau deimlo’n ddagreuol ac yn isel am ychydig - gall hyn barhau am ychydig ddyddiau, hyd at ychydig o fisoedd. Ceir tair prif ffurf i hyn ddigwydd:

  • 'Y felan' neu'r 'baby blues', sef yr un mwyaf cyffredin, sy'n dechrau tua’r trydydd diwrnod wedi’r enedigaeth a diflannu erbyn tua’r degfed diwrnod. Mae’n bosibl y bydd mamau’n teimlo’n ddagreuol ac isel, ond fel arfer does dim angen triniaeth feddygol.
  • Iselder ôl-enedigol: Os nad yw’r teimladau isel yn gwella, gall iselder ôl-enedigol ddatblygu. Golyga'r cyflwr eich bod yn teimlo’n isel y rhan fwyaf o’r amser, heb lawer o awgrym ei fod yn diflannu. Fel arfer, sylwir ar yr iselder hwn yn y 4-6 wythnos gyntaf wedi’r enedigaeth, er mewn rhai achosion, gall gymryd sawl mis i ddatblygu. Bydd angen ei drin fel arfer.
  • Seicosis ôl-enedigol: Ffurf anghyffredin, ond llawer mwy difrifol. Gall symptomau olygu ymddygiad afresymol, dryswch a theimladau o eisiau lladd eich hunain. Yn aml iawn, bydd angen triniaeth seiciatrig arbenigol.

Gall iselder ôl-enedigol roi straen ar berthynas y rhieni, hyd yn oed achosi i ambell berthynas chwalu, felly mae’n bwysig adnabod y symptomau’n gynnar a chael help.

Cysylltiadau defnyddiol

    Patient.co.uk

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

    APNI -Association for Post Natal Illness

    Os ydych chi'n teimlo'n isel ar ôl geni plentyn, gallwch gael help drwy APNI. Ceir llawer o wybodaeth i famau yn y sefyllfa yma ar y gwefan ac mae help pellach trwy ddolenni safonol i'w partneriaid a'u teuluoedd hefyd.

    MAMA - Meet-A-Mum Association

    Nod MAMA yw ceisio helpu mamau sy’n teimlo’n isel neu’n unig ar ôl cael plentyn. Does dim grwpiau lleol yng Nghymru, ond fedrwch ddefnyddio’r llinell gymorth a'r gwefan.

    Ymddiriedolaeth Genedigaeth Genedlaethol

    Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig help a chefnogaeth trwy’r broses o fod yn feichiog, geni a dyddiau cynnar bod yn rhiant, gan gynnwys cyrsiau cyn ac ar ôl yr enedigaeth, cefnogaeth leol a gwybodaeth safonol i helpu bob rhiant.

    PNI-UK

    Gwybodaeth a chefnogaeth am unrhyw fath o iselder sy'n digwydd o gwmpas genedigaeth plentyn, yn cynnwys iselder cyn genedigaeth. Byrddau neges a stafell sgwrsio ar gael ar y wefan i chi gael cysylltu ag eraill gyda phrofiadau tebyg.

    Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

    Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion llawn gwybodaeth gyfredol fanwl ar bob math o iselder a salwch meddwl, yn cynnwys y sumtomau a'r opsiynau gorau yn nhermau triniaeth.

    Mind Cymru

    Mae Mind Cymru gyda 20 grŵp lleol ar draws Cymru, ac yn gallu rhoi gwybodaeth safonol am wasanaethau lleol ac am unrhyw help sydd ar gael ynglyn ag iechyd meddwl yn eich ardal. Ewch i'w gwefan am wybodaeth glir a chyfredol am unrhyw agwedd o iechyd meddwl neu ffoniwch y MindInfoLine.

    Journeys

    Trafod mewn grwp gydag eraill sy'n dioddef yw'r ffordd gorau i ddygymod a phroblemau weithiau. Mae Journeys, oedd gynt yn cael ei alw'r Depression Alliance, gyda 25 grŵp hunan gymorth ar draws Cymru.

    CRY-SIS

    Mae Cry-sis yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd gyda babis sy’n crio tipyn, ddim yn cysgu neu’n gofyn llawer. Cynigir cyngor ymarferol ar y safle we ac mae’r llinell gymorth wedi ei staffio gan wirfoddolwyr hyfforddedig, fel arfer wedi cael profiadau tebyg.

    BACP - British Association of Counsellors and Psychotherapists

    Os ydych chi'n edrych am therapi penodol i'ch cyflwr, neu angen help mewn perthynas, fedrwch gael gwybodaeth am eich therapydd cymwysedig lleol, yn ogystal â mathau o therapi ar gael, drwy fynd i wefan BACP.

    Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.