Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Rhedeg i ffwrdd

Bob blwyddyn, mae dros 70,000 o bobl ifanc yn rhedeg i ffwrdd o gartref neu o ofal, er bod y rhan fwyaf yn dychwelyd yn saff.

Os wyt ti yn teimlo fod gen ti nunlle i droi, ac yn meddwl rhedeg i ffwrdd, meddylia am siarad gyda rhai o'r gwasanaethau yma gyntaf: maent am ddim, yn gyfrinachol ac efallai gallent helpu, beth bynnag sy'n digwydd yn dy fywyd.

Cysylltiadau defnyddiol

    Childline Cymru

    Os ydych dan 18 ac yn poeni am unrhyw beth, gallwch gael help unrhyw awr o'r dydd neu nos drwy ffonio Childline Cymru am ddim, neu drwy fynd i'w gwefan am fwy o wybodaeth. Mae yna oedolion yna i'ch helpu chi sortio unrhyw broblem yn eich bywyd. Os ydych fethu clywed yn dda iawn gallwch ffonio drwy ffôn testun ar y rhif sy'n cael ei roi yma.

    • Rhif ffôn: 0800 1111 (24 awr y diwrnod)
    • Ffôn testun: 0800 400 222 (9.30am-9.30pm yn ystod yr wythnos, 11am-8pm ar benwythnosau)
    • Ymweld â'r wefan

    NSPCC

    Mae'r NSPCC yn sefyll dros hawliau plant trwy wrando ar eu anghenion, eu helpu a'u gwneud yn saff pan mae angen.

    Llinell Gymorth Rhedeg i Ffwrdd

    Llinell gyfrinachol am ddim i pwy bynnag sydd o dan 17 ac wedi rhedeg i ffwrdd o gartref neu o ofal.

    ClicArlein

    Sianel ar y we sy'n llawn gwybodaeth defnyddiol i bobl rhwng 11-25 oed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y newyddion diweddaraf, eich iechyd, addysg a phob math o bynciau eraill pwysg wrth i chi dyfu.

    Get Connected

    Os ydych o dan 25 gallwch gael cefnogaeth emosiynol gyfrinachol yn rhad ac am ddim o wasanaeth Get Connected.