Efallai fod pobl sydd gyda phroblemau difrifol gyda'u calon, iau, arennau neu ysgyfaint yn y pendraw angen trawsblaniad, sef derbyn organ bwysig gan rywun arall drwy lawdriniaeth. Ar y funud mae tua 9,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn disgwyl am drawsblaniad o'r fath i un ai wella eu bywydau'n syfrdanol neu i'w safio.
Mae'r wybodaeth a chefnogaeth yma i'r sawl sydd efallai yn y sefyllfa yna, eu teuluoedd neu ofalwyr. Mae o hefyd i'r sawl sy'n cysidro'r penderfyniad mawr o fod yn gyfrannwyr organau eu hunain.
Rhwydwaith sydd wedi ei sefydlu ac yn cael ei redeg gan bobl sydd wedi bod trwy trawsblanniad eu hunain, eu teluoedd neu gofalwyr.Cyswllt uniongyrchol dros y ffôn gyda rhai sydd wedi bod trwy profiadau tebyg.
Gwefan cynhwysfawr i gleifion, eu teuluoedd neu gofalwyr,gyda adnoddau da yn edrych ar bob agwedd o drawsblannu organau.
Gwefan wybodaeth a chefnogaeth y sustem iechyd yn rhoi'r diweddaraf ar roi gwaed, cyfrannu organau a thrawsblannu.
Mudiad i geisio cofrestru mwy o bobl fel cyfrannwyr organnau yng Nghymru.
Gwefan defnyddiol sy'n cael ei redeg gan bobl sydd wedi bod trwy brofiadau tebyg wrth gael trawsblaniad yr iau.
Elusen Gymreig sy'n cynnig cefnogaeth i gleifion sy'n byw gydag afiechyd ar yr aren, ac sy'n codi arian i wasanaethau ar draws Cymru.
Elusen sy'n hel arian i ymchwilio iechyd yr arennau ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth i'r sawl sy'n byw gydag iechyd gwael oherwydd problemau gyda'r aren.
Gwefan cynhwysfawr fel adnodd o sut mae'r iau yn gweithio, afiechydon yt iau a thriniaeth.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales