Cymru Fach
Chwant a chariad, nwyd a naid, serch a siom, dialedd a diogi... Addasiad o'r ddrama lwyfan sy'n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar y gymdeithas Gymreig.
Mae'r ffilm gomedi ddu Cymru Fach yn addasiad o ddrama lwyfan lwyddiannus Wiliam Owen Roberts, a gafodd groeso brwd pan aeth ar daith theatr Sgript Cymru yn 2006.
Yn y ffilm, fe gawn ni weld chwant a chariad, serch a siom, dialedd a diogi mewn cymdeithas fach, glos lle mae pawb rhywsut yn nabod neu'n perthyn i'w gilydd.
Mae'r ffilm, a gynhyrchwyd gan Boom Films, yn tynnu ynghyd rhai o actorion amlyca' Cymru. Mae'r cast yn cynnwys Aneirin Hughes, Steffan Rhodri, Nicola Beddoe, Gareth Pierce, Lowri Gwynne, Sioned Wyn, Rhys ap Trefor, Caitlin Richards, Victoria Pugh a Gwyn Vaughan.
Mae'r ffilm yn wahanol iawn i ffilm draddodiadol, gan ei bod wedi'i rhannu'n ddeg golygfa wahanol, gydag un cymeriad bob tro yn symud ymlaen i'r olygfa nesaf.
Mae pob golygfa yn canolbwyntio ar berthynas rywiol, a thrwy'r cymeriadau cawn olwg ddeifiol ar wahanol agweddau ar fywyd y Gymru gyfoes. Mae byd y cyfryngau, addysg a gwleidyddiaeth yn eu tro'n destun dychan yn y ddrama.
Mae'r ffilm, a gynhyrchwyd gan Jon Williams a'i chyfarwyddo gan Gruffydd Davies, wedi'i saethu'n drawiadol ar leoliad ym Mangor, Caernarfon, Llanberis, Aberystwyth, Yr Wyddgrug, Abertawe a Chaerdydd.
Gyda'r cyfarwyddwr ffilm amlwg Marc Evans yn uwch gynhyrchydd arni, mae gan y ffilm deimlad cyfoes, gafaelgar. Mae'r trac sain cryf yn ychwanegu at awyrgylch drawiadol, gyda chaneuon gan Y Cyrff, Pep Le Pew, Y Rei, Jakokoyak, Gwilym Morus a Datblygu yn rhan o'r sgôr.




































































































