Blaenau Gwent, 11 Hydref
Hwyaden gyda saws ffrwythau, Ffriterau courgettes a chaws feta ac Eaton Mess oedd ar y fwydlen mewn noson arbennig yng nghwmni cogydd poblogaidd S4C, Dudley Newbery.
Daeth cefnogwyr y cogydd i'r Ddawnsfa yn Theatr Beaufort, Glyn Ebwy, i sgwrsio, holi a blasu ar nos Fawrth, 11 Hydref.
Bydd Dudley yn dychwelyd i'r sgrin mewn cyfres newydd, Dudley ar Daith, ar S4C ym mis Tachwedd. Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd y cogydd hefyd yn herio wyth o sêr amlycaf Cymru i brofi gwres y gegin yn Dudley: Pryd o Sêr.