Blaenau Gwent, 27 Medi
CYNLLUN LLEOL YM MLAENAU GWENT YN ELWA £200 O YMGYRCH CALON CENEDL S4C
Mae criw o athrawon Ysgol Gyfun Gwynllyw ac aelodau Mudiad Ysgolion Meithrin wedi ennill cwis dafarn arbennig a drefnwyd fel rhancafodd ei drefnu ymhlith nifer o ddigwyddiadau Calon Cenedl S4C yn ardal Blaenau Gwent.
Menter Iaith Blaenau Gwent, Mynwy a Thorfaen yw'r cynllun lleol o ddewis yr athrawon fydd yn derbyn y brif wobr o £200.
Daeth 11 tîm at ei gilydd yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy ar gyfer y cwis dafarn a gyflwynwyd gan Gareth Roberts. Yno rRoedd yr awyrgylch yn hwyliog a'r cystadlu'n agos iawn rhwng cymdogion a ffrindiau, busnesau lleol a chriw o ddisgyblion ifanc o Ysgol Gyfun Gwynllyw wrth iddynt ateb cwestiynau ar wybodaeth gyffredinol, yr ardal leol, Cwpan Rygbi'r Byd a cherddoriaeth.
Cyflwynwyd siec o £200 i'r tîm buddugol ar gyfer elusen neu gynllun lleol, yn ogystal â nwyddau Calon Cenedl yr uni bob aelod.
Llwy bren Calon Cenedl oedd y wobr i'r ddau dîm ddaeth yn olaf - disgyblion Ysgol Gyfun Gwynllyw ac aelodau Clwb Rygbi Glyn Ebwy.
Mae digwyddiadau Calon Cenedl S4C yn parhau yn ardal Blaenau Gwent.