S4C

Close
Flash is required to view this video

S4C Cymunedol

Digwyddiadau Blaenau Gwent

Noson Gwylwyr

Blaenau Gwent, 6 Hydref

TRAFODAETH FYWIOG A GONEST NOSON GWYLWYR S4C

Tro gwylwyr S4C oedd hi i fynegi barn am raglenni a gwasanaethau'r Sianel mewn Noson Gwylwyr arbennig ym Mlaenau Gwent - gyda dros 80 o bobl yn rhan o'r gynulleidfa.

Cafwyd trafodaeth fywiog ac onest rhwng y gynulleidfa a phanel o swyddogion S4C yn Neuadd y Glowyr, Llanheledd, gyda'r sgyrsio yn amrywio o wasanaethau i Ddysgwyr, pryder am ddyfodol y Sianel, rhaglenni sy'n apelio at bobl ifanc, gwell ddefnydd o'r we a'r cyfryngau newydd a gwerthfawrogiad o wasanaeth meithrin Cyw.

Y darlledwr Jason Mohammed oedd yn cadeirio'r drafodaeth ac roedd y panel yn cynnwys Huw Jones (Cadeirydd Awdurdod S4C), Arwel Ellis Owen (Prif Weithredwr S4C), Geraint Rowlands (Cyfarwyddwr Comisiynu S4C), Siân Eirian (Pennaeth Gwasanaethau Plant) a Glenda Jones (Aelod o Awdurdod S4C).

Aelodau o gorau Only Boys Aloud Cwmbrân a Glyn Ebwy wnaeth ddarparu adloniant y noson, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cerddorol Tim Rhys-Evans.

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, "Rydym wedi cael croeso cynnes iawn yma ym Mlaenau Gwent yn ystod digwyddiadau Calon Cenedl S4C. Pwrpas ein nosweithiau Gwylwyr yw i wrando ar farn ein gwylwyr ac fe gawsom ni lawer o sylwadau defnyddiol am ein rhaglenni a'n gwasanaethau, yn gwynion ac yn ganmoliaeth. Roedd yn braf hefyd cael cwmni gymaint o ddysgwyr, pobl ifanc a phobl ddi-gymraeg yn y noson ac yn sicr roedd hynny'n adlewyrchu bod S4C yn bwysig ym mywydau pobl o bob cefndir ac ardal. Roedd gwerthfawrogiad y gynulleidfa o'r sianel yn amlwg ac yn galondid mawr i ni."

Cynhaliwyd y Noson Gwylwyr fel rhan o ymgyrch Calon Cenedl S4C yn Ne Ddwyrain Cymru.

Mae cwis dafarn hwyliog yng Nghlwb Rygbi Glyn Ebwy, sesiynau barddoniaeth gydag Eurig Salisbury (Bardd Plant Cymru) mewn amryw o ysgolion yn yr ardal a noson yng nghwmni cast Pobol y Cwm eisoes wedi cael ymateb positif.

Gwyliwch y fideo

Oriel

  • Noson Gwylwyr
  • Noson Gwylwyr
  • Noson Gwylwyr
  • Noson Gwylwyr
  • Noson Gwylwyr