Blaenau Gwent, 8 Hydref
Cafwyd diwrnod o hwyl a dysgu crefft newydd ym Mharc Bryn Bach, Tredegar. Julian Lewis Jones, seren y ffilm Invictus, Rhys Llywelyn ac arbenigwyr yn y maes pysgota oedd yn cynnig gwersi, arddangosfeydd a thro ar beiriant efelychu 'Sgota yn y digwyddiad ar ddydd Sadwrn yr 8fed o Hydref.