Blaenau Gwent, 12 Hydref
Plant Ysgol Bro Helyg yn taro'r nodau cywir gyda Tim.
Cafodd disgyblion Ysgol Bro Helyg yn Mlaina wledd o gerddoriaeth pan ddaeth Tim Rhys-Evans, Cyfarwyddwr Cerddorol Only Men Aloud ac Only Boys Aloud, i'w dysgu fel rhan o ddigwyddiadau Calon Cenedl S4C yn yr ardal.
Yn ystod y prynhawn, bu'r plant o flynyddoedd 5 a 6 yn cymryd rhan mewn gweithdai rhythm ac anadlu cyn perfformio cân Affricanaidd a threfniant Tim o'r gân rygbi, Sosban Fach.
Gwelodd dros 130 o bobl yr ardal ffrwyth llafur Tim a'r disgyblion mewn noson arbennig yng nghwmni Tim a chyflwynydd S4C, Nia Roberts. Yno, cafodd y plant a'r gynulleidfa'r cyfle i holi'r cerddor am ei swydd, cyfres newydd Only Men Aloud ar S4C, ei gynlluniau am y dyfodol ac am ei brosiect diweddaraf, Only Kids Aloud.
Meddai Tim, sy'n hanu o'r ardal, "Mae canu yn gallu cynnig profiad positif i bawb o bob oed ac roedd yn brofiad arbennig i ymweld ag Ysgol Bro Helyg, dysgu technegau anadlu a rhythm iddyn nhw a pherfformio gyda nhw fel rhan o ddigwyddiadau Calon Cenedl S4C."