S4C

Close
Flash is required to view this video

S4C Cymunedol

Digwyddiadau Ceredigion

Noson Gwylwyr

Tregaron, 2 Mawrth

Noson Gwylwyr... a noson gwrandawyr!

Neithiwr, yn Y Talbot yn Nhregaron, roeddem yno i wrando - i wrando ar ein gwylwyr. Ac, yn ôl eu harfer, roedd y Cardis yn barod i ddweud eu dweud yn ddilyffethair.

Aeth awr yn ddwy wrth i'r gynulleidfa rannu gyda ni eu diolch am ddarpariaeth S4C, a'u gwir gonsyrn am ei dyfodol. 'Gwell cynrychiolaeth o'r lleol', 'Mwy o safon mewn rhaglenni' 'Mae 'Cyw' yn drysor'... gwir gonsyrn am sianel sydd o allweddol bwys iddynt.

Braf iawn oedd rhannu sgwrs a thrafodaeth fywiog gyda chalon y genedl. Ac, fel y'n hatgoffwyd gan gyfaill o'r gynulleidfa, mae gan Gymru fwy nag un calon, a'n her ni, felly, fydd gwrando ar guriadau rhannau eraill y wlad hefyd o hyn ymlaen.

Gwyliwch y fideo

Dyma ddisgrifiad o noson oedd yn gyfle i roi barn am raglenni a gwasanaethau S4C gan Glenda Jones, aelod o Awdurdod S4C.