S4C

S4C Cymunedol

Digwyddiadau Llŷn Eifionydd

Byw yn yr Ardd

Rhoshirwaun, 11 Ebrill

Ges i ddiwrnod bendigedig heddiw, a hynny mewn lle hyfryd, sef Gardd Gymunedol Felin Uchaf, Rhoshirwaun.

Bore 'ma ges i ymuno efo 14 o ddisgyblion Ysgol Llidiardau wrth iddynt wirfoddoli yn yr ardd. Roedd yr awyr yn las, a'r haul yn gwenu, felly roedd hi'n ddiwrnod perffaith i fynd ati i chwynnu a throi un o'r gwlâu llysiau. Marcio'r ochrau i ddechrau, trwy ddefnyddio cortyn a phegiau, ac wedyn mynd ati efo dipyn o fôn braich i balu a chodi'r chwyn. Does dim yn mynd yn wastraff yn yr ardd, ac felly roedd yr holl chwyn yn cael mynd ar y compost. Mae gan y plant ardd lysiau fach yn yr ysgol… roedden nhw angen rhyw fath o ffrâm i dyfu pys, felly ar ôl cinio aethom ati i blygu a nyddu ffyn helyg i greu wigwam.

Yn y p'nawn, daeth criw o 10 o ddisgyblion Ysgol Botwnnog draw i ddysgu sut i blethu brigau'r llwyni helyg i greu bwa neu twnel coed helyg yn yr ardd. Ond roedd tasg anoddach o'u blaen, sef symud cerrig enfawr o un rhan o'r ardd i un arall! Doedd y criw bywiog yma ddim ofn gwaith caled, ond ro'n i wedi dechrau pendronni sut yn y byd fydden ni'n symud pethau mor drwm! Yr ateb oedd defnyddio rhyw fath o sled fawr bren andros o glyfar - roedd modd ei thynnu ar draws yr ardd gyda'r rhaffau. Fase un o'r rheiny'n handi i'r patsh acw yn Rhosgadfan!

Cyfle i holi cyflwynydd Byw yn yr Ardd, Russell Jones, wrth adnewyddu gardd gymunedol.

Gwefan Byw yn yr Ardd

Byw yn yr Ardd Byw yn yr Ardd