S4C

S4C Cymunedol

Digwyddiadau Llŷn Eifionydd

Noson i Ddysgwyr

Pwllheli, 14 Ebrill

Nos Iau Ebrill 14, daeth criw o ddysgwyr Cymraeg Bro Llŷn ac Eifionydd i Goleg Meirion Dwyfor ym Mhwllheli.

Dyma'r tro cyntaf i noson S4C i ddysgwyr ymweld â'r ardal. Roedd cyfle i weld a chlywed am raglenni S4C dros y gwanwyn a hefyd i gael rhagflas o'r ddrama gyfres newydd Porthpenwaig sy wedi'i ffilmio yn ardal Aberdaron.

Roedd yr actor ifanc Tudur Lloyd Evans, sy'n chwarae Huw yn y ddrama, yn bresennol i siarad â dysgwyr am ei waith a'i fywyd yn tyfu i fyny yn ardal Llanystumdwy. Roedd y noson hefyd yn gyfle i'r dysgwyr gael cyflwyniad byw ar y we i wefan S4C i ddysgwyr ac ro'n nhw wrth eu bodd gyda'r ddarpariaeth.

Catrin Stephens sy'n adrodd hanes noson arbennig i ddysgwyr yn trafod y ddrama newydd Porthpenwaig, yng nghwmni Tudur Lloyd Evans. Cyfle hefyd i glywed mwy am wasanaethau S4C i ddysgwyr.v

Mwy am Porthpenwaig

Gwefan Dysgwyr S4C