S4C

S4C Cymunedol

Digwyddiadau Llŷn Eifionydd

Porthpenwaig

Ysgol Crud y Werin, Aberdaron, 13 Ebrill

Roedd hi'n andros o noson dda yn neuadd Ysgol Crud y Werin. Ar ôl cael paned, prynu raffl a sgwrs 'efo hwn a llall roedd pobl Aberdaron yn ysu i gael gweld pennod gyntaf Porthpenwaig. A do, mi gawso nhw eu plesio. O'r funud gyntaf fe gafodd bob un ohona ni oedd yn y gynulleidfa ein bachu gan y golygfeydd godidog, cymeriadau difyr a stori afaelgar.

Ac ar ôl y gwylio, cyfle i holi'r tri gŵr fu bennaf gyfrifol am ddod a Phorthpenwaig i'r sgrin fach. Roedd hi'n bleser cael sgwrsio gyda Robin Evans, Cefin Roberts ac Aled Jones Williams. Noson arall fel hyn sydd ei hangen!

Daloni Metcalfe sy'n sôn am noson oedd yn gyfle i gael cipolwg ar gyfres ddrama newydd Porthpenwaig, ac i holi'r tîm cynhyrchu.

Mwy am Porthpenwaig

Porthpenwaig